Mae’r heddlu wedi arestio 15 o bobol yn Lerpwl yn dilyn protest yn erbyn cyfyngiadau’r coronafeirws.
Fe wnaeth pobol ymgynnull yng nghanol y ddinas o 1 o’r gloch heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 21).
Cawson nhw eu harestio am droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus ac am dorri rheolau’r coronafeirws.
Mae Lerpwl yn cynnal profion coronafeirws torfol ar hyn o bryd wrth i Loegr wynebu haenau o gyfyngiadau.
Mae’r heddlu’n dweud bod nifer o “unigolion hunanol yn dewis torri cyfreithiau” sy’n “peryglu bywydau”.
Maen nhw’n dweud y byddan nhw’n parhau i geisio adnabod y rhai sydd wedi torri’r cyfyngiadau a dwyn achos yn eu herbyn.