Mae dyn wedi cael ei arestio yn dilyn marwolaeth dynes mewn carafan yn Ninbych y Pysgod.

Cafodd yr heddlu eu galw toc ar ôl 6 o’r gloch neithiwr (nos Wener, Tachwedd 20).

Mae’r ymchwiliad yn parhau, a dywed yr heddlu nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall.