Mae Boris Johnson yn galw ar yr SNP i gydweithio “er dyfodol mwy llewyrchus”, gan bwysleisio bod y coronafeirws yn golygu bod angen i lywodraethau’r Alban a San Steffan ddod ynghyd.
Daw sylwadau prif weinidog Prydain yn dilyn ffrae am ddatganoli ac annibyniaeth, wrth iddo ddweud nad nawr yw’r amser i gael “rhaniadau na thynnu sylw o ran ein cyfansoddiad cenedlaethol”.
Fe fu’n annerch cynhadledd rithiol Ceidwadwyr yr Alban, gan ddweud wrth Nicola Sturgeon, prif weinidog yr Alban ac arweinydd yr SNP fod “rhaid i’r ffocws ar raniadau ddod i ben”.
Ddyddiau’n unig yn ôl, mae lle i gredu bod Boris Johnson wedi dweud wrth aelodau seneddol yng ngogledd Lloegr fod datganoli wedi bod yn “drychineb”.
Ond mae’n mynnu na chafodd ei sylwadau eu hadrodd “yn gwbl gywir”, gan ddweud mai’r ffordd mae’r SNP wedi ymdrin â datganoli yw’r “drychineb”.
Fe fu’n tynnu sylw at “safonau addysg yn gostwng, hyder isel busnesau a’r boddhad lleiaf erioed mewn gwasanaethau cyhoeddus”.
“Er fy mod i wedi beirniadu perfformiad datganoli, dydy hynny ddim yn golygu fy mod i eisiau gwrthwynebu datganoli fel cysyniad,” meddai wrth y gynhadledd wrth barhau i hunanynysu.
“Dw i’n gyn-Faer Llundain, dw i’n gwybod pa mor effeithiol y gall pwerau datganoledig fod.
“Mae’n allweddol cael polisïau sy’n dangos sut gall datganoli weithio i’r Alban, i bobol yr Alban, yn hytrach nag obsesiwn yr SNP gyda gwneud i ddatganoli weithio yn erbyn gweddill y Deyrnas Unedig.”
‘Diolch am gydweithio’
Mae Boris Johnson wedi diolch i Nicola Sturgeon a’i llywodraeth am gydweithio yn ystod y pandemig mae’n ei alw’n “bla”.
Ac mae’n dweud bod rhaid i’r cydweithio barhau er mwyn sicrhau’r defnydd gorau o frechlynnau, profion a thechnoleg newydd.
“Does dim ots gan Covid-19 am drefniadau cyfansoddiadol a beth bynnag yw ein gwahaniaethau gwleidyddol,” meddai.
“Mae angen i ni i gyd weithio gyda’n gilydd ar yr adeg hon i warchod iechyd a swyddi pobol yr Alban.”
Dywed fod yna “obaith ar y gorwel”, a hynny wedi “wyth mis anodd iawn”.
“Y ffordd orau o fynd â’r gobaith hwnnw a’i droi’n ddyfodol mwy llewyrchus yw drwy barhau i gydweithio,” meddai wedyn.
Diffyg meddwl ac ystyriaeth
Ond mae Keith Brown, dirprwy arweinydd yr SNP, wedi beirnadu “diffyg meddwl ac ystyriaeth” Boris Johnson o’r Alban.
“Dim ymdrech, dim ystyriaeth, dim meddwl, jyst deg munud o ddim byd y tu hwnt i ragor o eiriau llwfr o dynnu sylw oddi ar ei wall wrth ddatgelu ei fod e’n credu bod datganoli wedi bod yn drychineb,” meddai.
“Yn hytrach, fe ddylai fod wedi ymddiheuro am sarhau dewis democrataidd pobol yr Alban ac am lith o bolisïau Torïaidd gwenwynig, o lymder i Brexit trychinebus yng nghanol pandemig dinistriol.
“Unwaith eto, mae Johnson nad oes modd ymddiried ynddo wedi dangos nad oes ots gan y Torïaid am anghenion pobol yr Alban.
“Yr unig ffordd o warchod buddiannau’r Alban yn iawn yw drwy ddod yn wlad Ewropeaidd annibynnol.”