Mae degau o bobol wedi bod yn cael profion coronafeirws fel rhan o gynllun peilot ym Merthyr Tudful.

Mae’r profion yn cael eu cynnig i bobol leol a phobol sy’n gweithio yn y dref o heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 21), hyd yn oed os nad oes gan bobol symtomau’r coronafeirws.

Wythnos yn ôl, roedd gan Ferthyr Tudful y gyfradd heintio uchaf yng ngwledydd Prydain, ond mae hefyd wedi gweld y gwymp fwyaf – o 770 o achosion ym mhob 100,000 o’r boblogaeth i ddim ond 260.

Daw’r gwymp wedi’r cyfnod clo dros dro.

Gall pobol fynd i Ganolfan Hamdden Rhydycar i gael prawf, ac mae disgwyl i ragor o ganolfannau agor yno cyn diwedd y mis.

Bu’n rhaid i’r bobol gyntaf aros ryw awr a hanner cyn i’r ganolfan agor am 10.30yb.

Profiad ymwelydd

Ymhlith y bobol gyntaf i gael prawf yno roedd Shirley Jones, dynes 82 oed.

Bu farw ei gŵr Desmond Rogers, 83, yn Ysbyty Tywysog Charles ym Merthyr Tudful ddoe (dydd Gwener, Tachwedd 20).

Fe fu’n aros am driniaeth am ganser yn dilyn oedi yn sgil y pandemig.

“Roedd e wedi bod yno ers sbel, ac roedd ganddo fe ganser y coluddyn,” meddai.

“Fe aeth i’w stumog a’i wddf.

“Roedd yn Ysbyty Tywysog Charles, a dyna lle bu e farw.

“Doeddwn i ddim yn gallu ffarwelio â fe.

“Doeddwn i ddim yn gallu dweud wrtho fy mod i’n ei garu fe nac y byddai’r Arglwydd gyda fe.

“Allwn i ddim ei gysuro fe.”

Mae’n galw ar bobol leol i fynd i gael prawf.

Ymateb i’w ‘dewrder’

Mae Lisa Mytton, dirprwy arweinydd Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful, wedi talu teyrnged i “ddewrder” Shirley Jones.

“Mae’r dewrder mae’r ddynes yma wedi’i ddangos yn anhygoel,” meddai.

“Mae’n eithaf emosiynol gwybod ei bod hi wedi dod allan yma oherwydd yr effaith arni dros y 24 awr diwethaf, mae’n beth arbennig o ddewr i’w wneud.”

Wrth i’r canolfannau gael eu sefydlu, mae blychau oedd i fod i gael eu defnyddio yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf bellach yn cael eu defnyddio ar gyfer cynnal y profion.

Daw hyn yn absenoldeb blychau oedd i fod i gael eu hanfon i’r dref gan Lywodraeth Prydain.

Mae disgwyl i bobol allu cael eu canlyniadau o fewn hanner awr, a bydd pobol sy’n cael profion positif yn cael prawf arall ac yn cael cais i hunanynysu.

Mae’r lluoedd arfog yn cynorthwyo’r ymdrechion yn y dref i gynnal y cynllun.