Mae ymgyrchwyr wedi cynnal ralïau yng Nghaerfyrddin a Llanberis i brotestio yn erbyn yr argyfwng tai presennol ledled Cymru.

Daethon nhw ynghyd ger Neuadd y Sir, Caerfyrddin a Llyn Padarn yn Llanberis i alw ar Lywodraeth Cymru “i wneud popeth o fewn eu gallu i daclo’r argyfwng”.

Fe fu criw hefyd yn gorymdeithio am saith milltir o Lanrhystud i Aberaeron, lle bydd rali arall am 2 o’r gloch y tu allan i swyddfeydd y Cyngor.

Ymhlith yr hyn roedden nhw’n galw amdano roedd rhoi’r grym i awdurdodau lleol i reoli’r farchnad dai, a chyflwyno Deddf Eiddo.

Mae ymgyrch ‘Nid yw Cymru ar werth’ wedi cychwyn deiseb ar wefan y Senedd, sydd wedi denu rhai miloedd o lofnodion.

“Mae’r neges yn syml heddi: Llywodraeth Cymru, rhowch y grymoedd i’r cynghorwyr yma i sortio allan y broblem tai yng Nghymru,” meddai Sioned Elin o’r rali yng Nghaerfyrddin.

Lluniau’r rali