Bu farw Mari Lisa, y bardd, awdur a chyfieithydd, a chyn enillydd gwobr goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol.

Yn wreiddiol o Lanwrin ym Maldwyn, treuliodd gyfnod yn byw yng Nghaerfyrddin.

Bu’n gweithio fel cyfieithydd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cafodd ei haddysg yn Ysgol Bro Ddyfi, Machynlleth, cyn mynd i Brifysgol Aberystwyth i astudio Cymraeg a Drama, a pharhau yno wedyn i ymchwilio i garolau plygain Maldwyn ar gyfer gradd MPhil.

Enillodd Fedal Lenyddiaeth Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd yn 1985, a choron yr Urdd yn Nyffryn Ogwen y flwyddyn ganlynol.

Roedd yn un o’r awduron prin hynny oedd wedi meistroli rhyddiaith a barddoniaeth.

Roedd yn gynganeddwr medrus, a bu’n aelod o Ysgol Farddol Caerfyrddin am flynyddoedd.

Roedd yn gyfrannwr cyson i Dalwrn y Beirdd, a bu’n aelod o dîm Caerfyrddin a Maldwyn yn yr Ymryson yn y Genedlaethol.

Mari Lisa enillodd Dlws Coffa Cledwyn Roberts eleni am y delyneg orau yng nghyfres y Talwrn.

Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen gyda’i nofel ‘Veritas’ ym 2015, pan ymwelodd yr Eisteddfod â’i hardal enedigol ym Maldwyn.

Symudodd yn ôl i’w hen gartref yn Llanwrin yn 2015.

Mae’n gadael gŵr, Huw, a merch, Beca.

Teyrnged Prifysgol Bangor

“Gyda thristwch mawr y clywsom am farwolaeth sydyn Dr Mari Lisa, nofelydd, cyfieithydd, enillydd Gwobr Goffa Daniel Owen, a chyn-fyfyrwraig o’n Hysgol,” meddai Prifysgol Bangor.

“Estynnwn gydymdeimlad dwys â’i theulu.”