Mae llyfr ymadroddion 180 oed wedi cael ei ryddhau gan archifwyr, a oedd yn dysgu ymwelwyr o Loegr sut i siarad â’r “werin Gymreig”.
Argraffwyd y Welsh Interpreter gyntaf yn Llundain yn 1831, ac mae’n cynnwys y dyfyniad: “Creuwyd ar gyfer twristiaid, sy’n dymuno gwneud eu hunain yn ddealladwy i’r werin bobol yn ystod eu teithiau drwy Gymru”.
Mae’r llyfr yn cynnig amryw o ddywediadau Cymraeg “hanfodol” ar gyfer teithwyr o Loegr yn Oes Fictoria, yn ogystal â chymorth gydag ynganu.
Mae’r rhain yn cynnwys “My good friend, is this the way to ____?” (Fy nghyfaill addfwyn, ai hon yw y ffordd i ____?), and “Are you a Welshman?” (Ai Cymro ydych chwi?).
Mae sylwadau rhagarweiniol yn y llyfr ymadroddion yn dweud: “Pe bai angen unrhyw ymddiheuriad am gyflwyno y Welsh Interpreter i sylw’r cyhoedd, efallai y byddai’n ddigon nodi’n syml pa mor amhosibl yw i dwristiaid o Loegr gael eu deall gan y werin Gymreig.
“Gallai fod yn hynod gyfleus o bryd i’w gilydd gofyn ychydig o gwestiynau defnyddiol ac angenrheidiol, yn enwedig wrth deithio drwy’r ardaloedd mwy aneglur ac anghysbell.”
Cafodd ei ysgrifennu gan Thomas Roberts o Lwynrhudol, Pwllheli, dyn busnes a chydsylfaenydd Cymdeithas Cymreigyddion Llundain, cymdeithas gymdeithasol, ddiwylliannol a dadlau ar gyfer Cymry oedd yn byw ym mhrifddinas Lloegr.
Roedd y llyfr yn perthyn i’r bargyfreithiwr a’r awdur Cymreig Enoch Salisbury, a fu farw yn 1890, ac mae bellach ar gael ar-lein ac yng ngwasanaethau Casgliadau Arbennig ac Archifau Prifysgol Caerdydd.
Mae’r llyfr ymadroddion hwn wedi’i rannu fel rhan o wythnos flynyddol Archwilio Eich Archif, a drefnwyd gan Gymdeithas Archifau a Chofnodion y Deyrnas Unedig, ac yn cael ei gefnogi yng Nghymru gan Gyngor Archifau a Chofnodion Cymru.
“Ymdeimlad o hunaniaeth”
Dywedodd Hayden Burns, cadeirydd Cyngor Archifau a Chofnodion Cymru: “Y casgliadau hanesyddol sy’n cael eu cadw gan wasanaethau archifau Cymru yw cof dogfennol pobol, digwyddiadau a lleoedd Cymru.
“Maen nhw’n adrodd ein straeon ac wrth wneud hynny, maen nhw’n ein cysylltu â’r gorffennol ac yn rhoi ymdeimlad o hunaniaeth i ni.”
Cyngor i bob sefyllfa
Mae’r llyfr yn cynnwys ffyrdd y gall teithwyr o Loegr gyfathrebu â Chymry ymhob sefyllfa.
“Adlewyrchu’r oes coll pan oedd Cymru’n lle gwyllt – a pheryglus, hyd yn oed”
Archif arall yng Nghymru sydd â chopi o’r llyfr ydi Archif Ceredigion, ac roedden nhw wedi bwriadu ail-gyhoeddi’r llyfr erbyn Steddfod Tregaron eleni, cyn i bandemig y coronafeirws roi stop ar y trefniadau.
Dywedodd Dr Ania Skarżyńska, Uwch Archifydd, Archifdy Ceredigion wrth golwg360: “I fi, mae’r llyfr yn sefyll ar ffin newidiadau mawr a ddigwyddodd yn ystod y 19eg ganrif.
“Rydym ni’n gwybod, wrth edrych yn ol i’r gorffennol, y bydd y rheilffyrdd yn cysylltu pob cornel o Ynys Prydain ymhen 20-30 mlynedd, a bydd teithio’n gyflymach ac yn agor i lawer mwy o bobl.
“Ond mae’r Welsh Interpreter yn adlewyrchu’r oes coll pan oedd Cymru’n lle gwyllt – a pheryglus, hyd yn oed.
“Mae’r ymadroddion yn taflu golau ar wahanol agweddau bywyd a chymdeithas y cyfnod hwn: beth oedd pobl yn ei fwyta; sut oedd yn teithio o le i le; beth oedd rol gweision a morwynion; pa ddillad y gwisgwyd gan deithwyr, pa fath o wasanaeth oedd ar gael yn y tafarndai, a llawer, llawer mwy.”