Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd yna fersiwn newydd o’r gân ‘Dwylo Dros y Môr’, a gafodd ei chyfansoddi yn wreiddiol gan y canwr Huw Chiswell.

Bydd y sengl ar gael i’w lawrlwytho o’r holl blatfformau digidol o Ragfyr 11, a bydd rhaglen arbennig, ‘Dwylo Dros y Môr 2020’, yn cael ei darlledu ar Ragfyr 27 am 8 o’r gloch y nos.

Cafodd y gân wreiddiol, y record elusennol gyntaf yn y Gymraeg, ei chyhoeddi 35 mlynedd yn ôl.

Mae’r gantores Elin Fflur a’r cerddor Owain Gruffudd Roberts wedi mynd ati i dynnu dros 30 o artistiaid y sîn gerddoriaeth Gymraeg bresennol ynghyd i recordio’r fersiwn newydd.

Bydd cyfran o elw’r sengl yn mynd tuag at elusen Cronfa Gwydnwch Coronafeirws Cymru dan elusen Sefydliad Cymunedol Cymru.

Mae’r gronfa’n darparu cefnogaeth i fudiadau sy’n cynnig cymorth i bobol sydd wedi’u heffeithio gan y coronafeirws.

Ymysg yr artistiaid sy’n rhoi bywyd newydd i hen gân mae Mared Williams, Rhys Gwynfor, Kizzy Crawford, Heledd Watkins (HMS Morris), Elidyr Glyn (Bwncath) ac Elin Fflur.

‘Argyfwng go wahanol’

“Yn wreiddiol, 35 mlynedd yn ôl, codi arian ar gyfer argyfwng roedd yn digwydd ochr arall y byd oedd y bwriad; ond argyfwng go wahanol sydd eleni,” meddai Elin Fflur.

“Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn mor anodd – mae Covid wedi effeithio pob un ohonom ni, ond mae rhai pobol yn ein cymunedau wedi cael eu taro’n ofnadwy oherwydd y pandemig.

“A dyna pam fod Cronfa Gwydnwch Coronafeirws Cymru Sefydliad Cymunedol Cymru yn bwysig; mae’n gweithredu ar lawr gwlad ein cymunedau ni.

“Ers ffilmio, mae’r elusen am rannu’r arian drwy eu Cronfa Ymateb ac Adfer Sefydliad Cymunedol Cymru, sy’n helpu sefydliadau ledled Cymru oroesi’r argyfwng yn uniongyrchol.

“Mi faswn i’n annog pawb i brynu’r gân – ‘da’n ni’n dal yng nghanol y pandemig, felly os ydyn ni’n medru helpu’r achos drwy lawrlwytho cân, wel, awê ‘de!

“A byddai’n fonws go iawn ei gweld yn cyrraedd brig y siartiau!”