Mae Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford wedi ymuno yn y ffrae tros y defnydd o drychfilod a chreaduriaid anfrodorol ar I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here!

Mae I’m A Celebrity… Get Me Out Of Here! wedi amddiffyn eu defnydd o bryfaid yn sgil adroddiadau bod y rhaglen yn destun ymchwiliad gan yr heddlu ei bod wedi rhyddhau bywyd gwyllt anfrodorol wrth ffilmio.

Dywed papur newydd y Guardian fod y rhaglen o bosib wedi torri’r Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad pe bai wedi methu â chael trwydded ar gyfer rhyddhau’r pryfaid.

Mae’r gyfres yn cael ei ffilmio yng Nghymru yn hytrach na’i lleoliad arferol yn Awstralia oherwydd y pandemig coronafeirws.

Mae amryw o bryfaid wedi cael eu defnyddio ar y rhaglen, wrth i’r selebs wynebu heriau annymunol.

Dywedodd llefarydd ar ran y rhaglen fod “yr holl bryfaid sy’n cael eu defnyddio ar I’m A Celebrity yn rhywogaethau sydd ddim yn ymledol”.

Cododd Iolo Williams, y naturiaethwr Cymreig a chyflwynydd BBC Springwatch, gwestiynau ynghylch defnydd y rhaglen o’r creaduriaid.

Yr wythnos diwethaf, fe wnaeth e droi at Twitter i leisio’i farn.

“Yn ogystal â’r mater moesol o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt ar gyfer adloniant, siawns nad oes materion ecolegol enfawr yma hefyd,” meddai.

Ar ddydd Mawrth (Tachwedd 24), dywedodd ei fod yn fater i Heddlu Gogledd Cymru.

Mae enwogion, gan gynnwys yr athletwr Syr Mo Farah, y cyflwynydd teledu Vernon Kay a’r newyddiadurwr Victoria Derbyshire, ymhlith y wynebau cyfarwydd sy’n cymryd rhan yn y gyfres.

Mae’r ffilmio’n digwydd yng Nghastell Gwrych ger Abergele.

Ymateb Mark Drakeford

“Buom yn gweithio’n ofalus gyda’r cwmni cynhyrchu i sicrhau bod yr holl reolau’n cael eu harsylwi,” meddai Mark Drakeford wrth raglen BBC Breakfast.

“Os ydi’r rheolau wedi cael eu torri, yna mae’n iawn eu bod yn cael eu hymchwilio.

“Byddem yn pryderu am rywogaethau anfrodorol yn cael eu rhyddhau.”

Darllen Mwy