Mae darn o hen hanes Castell Gwrych, sef lleoliad cyfres I’m a Celebrity… Get Me Out of Here! eleni, wedi ei ddarganfod mewn archif – a hynny ar drothwy ‘Wythnos Archwilio Eich Archif’ sy’n cychwyn yfory (Tachwedd 21).

Mae’r gyfres deledu boblogaidd ar ITV wedi’i lleoli yn Awstralia fel arfer, ond fe ddaeth y sioe i gyrion Abergele eleni yn sgil pandemig y coronafeirws.

Ac mae hen daflen ar gyfer gwerthu’r castell ger Abergele, sy’n dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, wedi ei ddarganfod.

Fe gafodd y daflen ei chreu yn 1946, er mwyn hysbysebu’r castell ar gyfer ei werthu mewn ocsiwn.

Cafodd ei ddisgrifio fel “Castell hyfryd adnabyddus” yn y daflen, ac mae ynddo flas o sut roedd y castell yn edrych dros 80 mlynedd yn ôl.

26 ystafell wely

Mae’r daflen yn nodi bod yr eiddo oedd yn cael ei werthu yn cynnwys 26 ystafell wely a saith ystafell ymolchi, oedd yn rhan o ystâd 1,000 erw a oedd yn cynnwys tai allan, porthdai, gerddi, coetir a pharcdir.

Mae hefyd yn dweud fod y castell yn cynnwys neuadd fawr, ystafell chwarae biliards, ffenestri lliw cain, lloriau derw a nenfydau bwaog, yn ogystal â grisiau mawreddog wedi’u haddurno â marmor a gwaith haearn cain

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu’r castell yn noddfa i gannoedd o blant Iddewig fel rhan o Ymgyrch Kindertransport.

Mae’r castell bellach yng ngofal Ymddiriedolaeth Cadwraeth Castell Gwrych a lwyddodd i’w brynu yn 2018.

Wythnos Archwilio Eich Archif

Cafodd hanes y daflen ocsiwn ei rannu gan Archifau’r Gogledd Ddwyrain fel rhan o Wythnos Archwilio Eich Archif.

Ac mae aelod o Lywodraeth Cymru wedi manteisio ar y cyfle i ddweud bod “archifau’n parhau i fod yn adnodd hanfodol”.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Yn ystod y cyfnod digyffelyb yma, mae archifau’n parhau i fod yn adnodd hanfodol er mwyn i ni ddysgu am hanes ein gwlad, ein cymunedau a’n pobl.

“Gan nad ydy pobl yn gallu ymweld â’u harchifau yn y cnawd ar hyn o bryd, bydd yr ymgyrch yma’n atgyfnerthu sut mae modd i ni fwynhau ein treftadaeth archifol gyfoethog ar-lein.

“Rwy’n annog pawb i fanteisio ar y cyfle yma i ddysgu rhagor am yr hyn sydd gan ein harchifau i’w cynnig iddyn nhw, ac i archwilio hanesion teuluoedd, pobol, busnesau a sefydliadau lleol sydd i’w cael yn yr archifau.”