Ifan Henri o Borthaethwy a Lleucu Owain o Gerrigydrudion yw sêr newydd Deian a Loli, y rhaglen boblogaidd sydd wedi ennill dwy wobr BAFTA a chlod rhynglwadol.

Mae’r pâr newydd wedi curo 550 o ymgeiswyr i chwarae rhannau’r efeilliaid, a byddan nhw i’w gweld am y tro cyntaf mewn pennod arbennig ar Noswyl Nadolig.

Mae Ifan a Lleucu yn cymryd drosodd gan Gwern Jones, o Lanrug, a Lowri Jarman, o Lanuwchllyn, sydd bellach wedi tyfu’n rhy fawr i chware’r rhannau.

Dyma’r trydydd tro i rannau’r efeilliaid direidus gael eu chwarae gan actorion gwahanol.

‘Hoffus, direidus a thalentog’

“Does dim dwywaith bod Ifan a Lleucu wedi gwneud argraff yn gynnar iawn yn y broses ddewis,” meddai Nerys Lewis, o Cwmni Da, sy’n cyd-gynhyrchu’r sioe.

“Mae gan y ddau lawer o dalent, maen nhw’n hoffus iawn, maen nhw’n ddireidus. Mae ganddyn nhw’r holl elfennau roedden ni’n chwilio amdanyn nhw.

“Mae’r ddau ohonyn nhw wedi addasu’n dda iawn. Maen nhw’n aeddfed iawn ac wedi derbyn yr her.

“Mae’r broses gastio wedi bod yn un anodd eleni oherwydd cyfyngiadau’r cyfnod clo, felly hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y clyweliadau ar gyfer rhannau Deian a Loli am fod mor amyneddgar.

“Roedd yn rhaid i ni gyfweld drwy Zoom a chynnal cyfweliad gyda phellhau cymdeithasol gyda’r chwe ymgeisydd olaf.

“Roedd y safon yn anhygoel o uchel.”

Ychwanegodd bod ffilmio’r gyfres ddiweddaraf, gan ddilyn y cyfyngiadau, wedi bod yn heriol.

“Ond ar gyfer y bennod arbennig, roeddem yn gallu creu swigen, a oedd yn golygu bod y cast a’r criw yn cael profion Covid rheolaidd ac yna pawb yn byw gyda’i gilydd ar set am yr wythnos.”

Dau FAFTA a chanmoliaeth uchel yn rhyngwladol

Yn ogystal â denu llu o ddilynwyr ifanc ledled Cymru, mae’r gyfres sy’n cael ei chynhyrchu gan Gwmni Da o Gaernarfon hefyd wedi profi’n boblogaidd iawn ymysg beirniaid teledu.

Hyd yma mae wedi ennill dwy wobr BAFTA Cymru, cyrraedd rhestr fer rownd derfynol Gwobrau Gŵyl Ffilm a Theledu Efrog Newydd, a chael canmoliaeth uchel yn seremoni yr UK Broadcast Awards.

Mae’r gyfres hefyd wedi ei gwerthu yn rhyngwladol ac mae dau lyfr bellach wedi eu cyhoeddi sy’n seiliedig ar y gyfres.

Lleucu ac Ifan yn gwireddu breuddwyd

Ar ôl goroesi pum clyweliad, mae Lleucu ac Ifan yn edrych ymlaen at yr her newydd.

“Rwy’n teimlo’n ffodus i gael y cyfle hwn i fod ar raglen blant sydd mor boblogaidd, a chael bod ar sioe rydw i wedi ei gwylio ers iddi ddechrau,” meddai Lleucu.

“Dyma fy hoff raglen deledu.

“Mae’n gyffrous iawn gweithio ar y sioe ac rwy’n cael llawer o hwyl efo Ifan.”

Eglurodd Ifan fod profiadau yn yr ysgol a gweithdai eraill wedi ei baratoi ar gyfer y rhan.

“Rydw i wedi actio yn nrama’r ysgol ac rydw i wedi gwneud gweithdy actio o’r enw Blas yng nghanolfan Pontio ym Mangor,” meddai.

“Rwy’n credu bod hynny wedi fy helpu oherwydd fy mod i wedi dysgu technegau actio.

“Rwy’n ddilynwr brwd o’r sioe ac rwy’n ei gwylio yn yr ysgol a gartref. Rwy’n hoffi bod gwers neu neges ym mhob pennod, ac rwy’n hoffi bod ganddyn nhw’r pŵer i rewi eu mam a’u tad ac i wneud eu hunain yn fach.”

Yr hen Deian a Loli: Gwern Jones a Lowri Jarman.

Wrth adlewyrchu ar eu cyfnod yn chwarae rhannau’r efeilliaid dywedodd Gwern Jones, sy’n ddisgybl yn Ysgol Brynrefail a Lowri Jarman, sy’n ddisgybl yn Ysgol Godre’r Berwyn yn y Bala, fod y profiad wedi bod yn un gwerthfawr iawn.

“Mae gweithio ar Deian a Loli wedi bod yn brofiad ffantastig – ac yn llawer o hwyl,” meddai Gwern.

“Rwy’n mynd i golli gweithio ar y rhaglen oherwydd mae ei ffilmio wedi bod yn gymaint o hwyl ac mae’r criw wedi bod mor gyfeillgar.

“Roedd ennill gwobr BAFTA yn ffordd wych o orffen.”

Ychwanegodd Lowri y bydd hi’n methu’r bwrlwm sydd yn dod ynghyd a chynhyrchu’r rhaglen.

“Rydw i’n mynd i golli gweithio ar y rhaglen oherwydd fy mod i wedi gwneud cymaint o ffrindiau a byddaf yn gweld eisiau pawb, a bydd yn deimlad rhyfedd peidio â gweithio arni,” meddai.

“Rydw i ychydig yn drist ynglŷn â gorffen ond roedd yn brofiad hyfryd ac rydw i’n edrych ymlaen at wylio’r Deian a Loli nesaf.”