Mae’r MC o Gaerdydd, Deyah, wedi ennill Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2020 gyda’i halbwm ‘Care City’.

Mae ei cherddoriaeth yn cyfuno Hip Hop Lo-fi gydag old school, new school ac R&B.

Am y tro cyntaf yn hanes 10 mlynedd y wobr gerddoriaeth, cyhoeddwyd yr enillydd trwy seremoni ddigidol a oedd yn cynnwys ymddangosiad annisgwyl gan Michael Sheen.

Dewisodd panel o arbenigwyr yn y diwydiant cerddoriaeth yr enillydd o restr fer o 15 albwm.

Disgrifiodd y panel ‘Care City’ gan Deyah fel albwm “pwerus a gafodd ei hunan-gynhyrchu a’i hunan-ryddhau sy’n asio curiadau hamddenol, llif telynegol a chân achlysurol gan yr rapar o Gaerdydd sy’n mynd i’r afael â phynciau fel dibyniaeth, unigedd ac iachâd.”

Roedd albwm blaenorol Deyah, Lover Loner, ar restr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2019, yn yr un flwyddyn ag y cafodd ei hychwanegu ar Restr Hot List BBC Introducing ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Merched.

Yn ei haraith dderbyn, dywedodd Deyah: “Mae ennill Gwobr Cerddoriaeth Cymru yn syndod llwyr ond yn anrhydedd llwyr.

“Mae’n gorff o waith sy’n dogfennu’r cyfnod anoddaf dw i erioed wedi mynd drwyddo ac mae’n fraint cael fy enwebu, heb sôn am ennill. Dwi mor ddiolchgar!

“Gyda’r albwm hwn rwyf am addysgu pobl i fyw bywyd heb bwysau disgwyliad”.

Dywedodd Huw Stephens, cyd-sylfaenydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig: “Gwnaeth Care City gan Deyah argraff fawr ar y beirniaid gyda’i halbwm personol, barddonol a chynhyrchwyd yn gywrain.

“Mae hi’n artist Cymreig ifanc sydd wir yn gwneud ei marc ar y sin gerddoriaeth, ac rydyn ni wrth ein boddau mai hi yw’r 10fed derbynnydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig.

“Mae Care City yn wrandawiad rhyfeddol, mae ei geiriau a’i llif yn rhagorol.”

A dywedodd wrth golwg360: “Roedd 15 albwm gwych ar y rhestr fer eleni, a chafodd hwn ei ddewis oherwydd ei fod yn albwm pwerus, emosiynol, wnaeth argraff ar y beirniaid.

“Mae hi’n rapio am fod yn isel, am anawsterau mae hi wedi ei gael mewn bywyd… mae’n albwm personol iawn.”

Cynhaliwyd y digwyddiad ar-lein, a ffrydiwyd trwy welshmusicprize.com ac amam.cymru, ar Zoom gyda’r cyflwynwyr, artistiaid, beirniaid a rheithwyr, gan ddisodli’r digwyddiad byw arferol oherwydd cyfyngiadau COVID-19.

Dywedodd Michael Sheen: “Mae’r cyfoeth anhygoel, y dychymyg, y creadigrwydd a gynrychiolir gan yr holl enwebeion eleni yn rhyfeddol. Mae wedi cipio fy anadl.

“Mae’n gwneud i mi deimlo’n hynod falch o wybod bod pobol ledled y byd yn gallu gweld pwy ydym ni yng Nghymru trwy’r gerddoriaeth yma, oherwydd chi yw ein llais yn rhyngwladol. ”

Y 15 albwm ar restr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2020 oedd:

Mirores – Ani Glass

Chaos Wonderland – Colorama

Ofni – Cotton Wolf

Care City – Deyah

Steel Zakuski – Don Leisure

Mai – Georgia Ruth

Pang! – Gruff Rhys

Eyelet – Islet

Bring Me The Head of Jerry Garcia – Keys

A Vision In The Dark – Kidsmoke

Sbwriel Gwyn – Los Blancos

Valley Boy – Luke RV

Zone Rouge – Right Hand Left Hand

Everything Solved At Once – Silent Forum

Iaith Y Nefoedd – Yr Ods

Mae Deyah yn ymuno â rhestr o enillwyr sy’n cynnwys Adwaith (2019), Boy Azooga (2018), The Gentle Good (2017), Meilyr Jones (2016), Gwenno (2015), Joanna Grusome (2014), Georgia Ruth (2013), Future of the Left (2012), Gruff Rhys (2011).

Gwobr Triskel

Cyhoeddwyd yn y seremoni Gwobr Gerddoriaeth Cymru hefyd mai Eädyth sydd wedi ennill Gwobr Triskel eleni.

Cafodd Gwobr Triskel ei greu yn 2019 er mwyn dathlu a chefnogi artist sy’n dod i’r amlwg.

Gyda chefnogaeth Help Musicians UK, mae’r artist i gyd yn derbyn pecyn cymorth diwydiant gan gynnwys dyfarniad datblygiad creadigol o £500, mynediad am ddim i’r Cynllun Iechyd Clyw Cerddorion (MHHS) a dwy awr o gynllunio busnes gydag arbenigwr yn y diwydiant cerddoriaeth.