Mae Americanes – sy’n byw yn Awstralia – yn dysgu Cymraeg er mwyn dod i ddeall a gwerthfawrogi mwy am hanes ei chyndeidiau.

Mae Liz Williams, sy’n byw yn Melbourne, Awstralia, yn dysgu’r Gymraeg tros y We.

Magwyd Liz yn Efrog Newydd, a bu’n byw ym Mhensylvania am gyfnod tra’r oedd yn fyfyrwraig yno.

Roedd yn ymwybodol o’i gwreiddiau Cymreig, ac roedd straeon am ei hen hen daid a ymfudodd o Gymru i Efrog Newydd ym 1886, yn gwneud iddi eisiau dysgu mwy am yr iaith a’i hanes.

Roedd ei thad yn mynd â hi i Gymanfaoedd Canu ar draws Gogledd Ddwyrain America pan oedd yn ferch ifanc, ac un o’i hatgofion cyntaf oedd sefyll yn un o’r eglwysi hynny, a chanu’r emyn ‘Calon Lân’.

“Dechreuais i ddysgu Cymraeg yn 2012 ar ôl clywed am yr app SaySomethingInWelsh (SSiW),” meddai.

“Dw i wrth fy modd yn defnyddio’r adnoddau ar wefan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol hefyd,  dysgucymraeg.cymru, ac wedi bod yn dilyn eu cyrsiau ar-lein. Mae hyn yn fy helpu i ddatblygu geirfa newydd ac i ynganu’n well.

“Dw i bellach yn gallu defnyddio’r hyn dw i’n ei ddysgu mewn sgyrsiau bob dydd. Fe wnes i allu defnyddio’r Gymraeg yn ystod fy ymweliad ag Eisteddfod Genedlaethol Meifod yn 2015.”

Radio Cymru a Rownd a Rownd yn plesio

Symudodd Liz i Melbourne yn 2018 a phenderfynu parhau gyda dosbarth Cymraeg, yno a oedd yn cael ei drefnu gan Eglwys  Gymraeg Melbourne.

“Dw i wrth fy modd yn gwrando ar Radio Cymru, a gwylio rhaglenni fel Rownd a Rownd ar S4C.

“Dw i’n defnyddio Duolingo bob dydd hefyd, ac yn trefnu sgyrsiau ar Skype gyda fy nheulu sy’n dal i fyw yng Nghymru.”

Mae’r dosbarth ym Melbourne wedi cael ei ohirio yn sgil pandemig y coronafeirs, ond mae grŵp o’r un dosbarth yn dod at ei gilydd yn wythnosol i sgwrsio a thrafod gyda thiwtor yng Nghymru dros Zoom.

Ymweld â Chymru

Daeth Liz i Gymru am y tro cyntaf pan oedd hi’n 11 mlwydd oed, gan ymweld â’r tŷ ger Aberdaron lle magwyd ei hen hen daid cyn iddo ymfudo i America.

Gwnaeth hyn gryn argraff arni a phenderfynodd ddychwelyd i Ben Llŷn yn 21 oed, gan ymweld â llefydd eraill o gwmpas Cymru.

Erbyn hyn mae hi’n mwynhau dysgu mwy am hanes ei theulu yng Nghymru ac yn cyfieithu hen ddogfennau, llythyron ac erthyglau papur newydd o’r Gymraeg i’r Saesneg.

Mae hi’n edrych ymlaen at gael dychwelyd i Gymru ac i ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol unwaith eto pan fydd hynny’n bosib.

“Fy hoff beth am ddysgu Cymraeg yw gallu cyfathrebu gydag aelodau o’r teulu sy’n dal i fyw yng Nghymru.

“Fy hen hen daid oedd yr unig un o ddeg o frodyr a chwiorydd a wnaeth ymfudo i America. Dw i’n meddwl yn aml pa mor wahanol fyddai fy mywyd i wedi bod pe na bai e wedi gadael Cymru,” meddai.

Ysgrifennu llyfr

Yn ystod y cyfnod clo mae Liz wedi gorffen drafft cyntaf ei llyfr sy’n adrodd hanes yr effaith a gafodd yr ymfudo o Gymru ar weddill y teulu ar hyd y cenedlaethau, gan edrych ar ei thaith hi wrth ddysgu’r Gymraeg.

“Fy nghyngor i ddysgwyr y Gymraeg fyddai i sicrhau eu bod yn cael digonedd o gyfleoedd i ddefnyddio’r iaith.

“Mae gwylio teledu Cymraeg a gwrando ar Radio Cymru, neu hyd yn oed fwynhau llyfr Cymraeg, wedi bod o gymorth mawr i fi.

“Mae angen dyfalbarhau – dyw hi ddim yn bosib dysgu iaith dros nos.”