Mae’r Pab wedi gwadu iddo ‘hoffi’ llun o fodel o Frasil mewn sgert fer a mymryn o dop.

Ac mae ei swyddogion yn y Vatican wedi gofyn am esboniad gan wefan Instagram, wedi iddi ddod i’r amlwg fod cyfrif swyddogol y Pab Francis wedi hoffi’r llun o Natalia Garibotto.

Mae ganddi 2.4 miliwn o ddilynwyr ar Instagram, ac mae adroddiadau ei bod wedi ymateb i’r sylw gan y Pab trwy wamalu: “O leia’ rydw i’n mynd i’r nefoedd.”

Mae swyddogion y Vatican wedi datgelu bod tîm o bobol yn rheoli gwahanol gyfrifon y Pab ar y cyfryngau cymdeithasol, ac nad ef ei hun wnaeth hoffi’r llun o’r fodel o Frasil.

Mae 7.4 miliwn yn dilyn ei gyfrif Instagram – ond nid yw’r Pab yn dilyn unrhyw gyfrifon.