Mae’r Prif Weinidog wedi dweud bod yna dystiolaeth dda bod y cyfnod clo dros dro yng Nghymru wedi bod yn llwyddiannus wrth geisio atal y coronafeirws rhag lledu.

Ond mewn cynhadledd i’r Wasg amser cinio, mae Mark Drakeford wedi rhybuddio y gallai ymddygiad pobol yn ystod yr wythnosau nesaf effeithio’n fawr ar ddewisiadau’r Llywodraeth yn ymwneud â’r Nadolig.

Bydd y llywodraethau datganoledig yn cyfarfod â Michael Gove, cynrychiolydd Llywodraeth Prydain, yr wythnos nesaf i drafod pa gyfyngiadau fydd ar deithio a chymdeithasu dros y Nadolig.

Mae disgwyl iddyn nhw ddatblygu cynllun cyffredin rhwng y pedair gwlad.

‘Mae gan bawb ran i chwarae’

“Mae gan bawb – pob un ohonom – ran i chwarae i sicrhau ein bod yn parhau i adeiladu ar gynnydd y clo a chadw’r achosion hynny i ostwng,” meddai Mark Drakeford.

“Mae’n syml, rydyn ni’n gwybod beth mae’n rhaid i ni ei wneud.

“Os ydyn ni i gyd yn gwneud hyn gyda’n gilydd, gallwn gael llwybr clir drwodd i’r Nadolig.”

Dywedodd ei fod yn ymwybodol iawn bod llawer o bobol yn ceisio cynllunio ar gyfer y Nadolig ac yn gobeithio gweld teulu dros gyfnod yr Ŵyl.

“Mae llawer o ddyfalu wedi bod yn y Wasg am beth fydd y cynllun, ond rydym yn dal i weithio arno.

“Yma yng Nghymru, rydym yn parhau i ymateb i’r argyfwng hwn drwy flaengynllunio’n gyntaf ac yna cyhoeddi’r cynlluniau hynny.”

Datgelodd bod yr Heddlu wedi ymateb i dros 1,000 o ddigwyddiadau yn ymwneud â Covid-19 yng Nghymru.

Nid yw’n anochel y bydd achosion yn codi erbyn mis Rhagfyr

Pan awgrymwyd wrth y Prif Weinidog ei bod hi’n anochel y bydd achosion yn dechrau codi eto cyn y Nadolig, gan nad oes cyfyngiadau mewn lle yng Nghymru, fe daflodd amheuaeth ar y ddamcaniaeth.

“Fyddwn i ddim yn cytuno â’r gair ‘anochel’,” meddai.

“Ond ni ellid diystyru na fyddai’n wir chwaith.”

Dywedodd Mark Drakeford mai mater i’r cyhoedd yw gwneud y pethau iawn, fel osgoi cyfarfod ag eraill, a gweithio o gartref i osgoi hynny.

“Gostyngiad enfawr” ym Merthyr Tudful

Cyfeiriodd y Prif Weinidog at y graff uchod sydd yn dangos effaith y clo dros dro ar achosion newydd fesul diwrnod yng Nghymru.

Mae cyfradd yr achosion yn ystod y saith diwrnod diwethaf wedi gostwng i tua 160 o achosion i bob 100,000 o bobol yng Nghymru.

Mae hyn yn amrywio o ychydig dros 20 achos i bob 100,000 o bobol yn yr ardaloedd isaf i fwy na 350 o achosion i bob 100,000 o bobol ym Mlaenau Gwent, sef yr uchaf yng Nghymru erbyn hyn.

Yn y cyfamser mae “gostyngiad enfawr” wedi bod yn nifer yr achosion ym Merthyr Tudful – o 770 i tua 250 fesul 100,000 o bobol.

Bydd Profion torfol yn dechrau ym Merthyr Tudful dydd Sadwrn, Tachwedd 21.

Camsillafu
  1. flaengynllunio’n
  2. flaengynllunion
  • Anwybyddu
  • Dysgu
  • Nôl
  • Nesaf