Mae Keir Starmer wedi cwestiynu a ydi Gweinidogion Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cadw at y cod gweinidogol yn sesiwn Cwestiynau’r Prif Weinidog heddiw (Tachwedd 25).
Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur: “Efallai y bydd y Prif Weinidog yn cofio iddo ysgrifennu rhagair i’r cod gweinidogol ym mis Awst y llynedd. Mae’n dweud, a dyfynnaf, ‘rhaid sicrhau bod dim bwlio, dim aflonyddu, dim camddefnyddio arian trethdalwyr, dim gwrthdaro buddiannau’.
“Mae hynny’n bum addewid mewn dwy frawddeg. Faint o’r addewidion hynny y mae’r Prif Weinidog yn credu bod ei weinidogion wedi’u cadw?”
Ymddangosodd Boris Johnson ar sgriniau teledu yn siambr Tŷ’r Cyffredin ar ôl cael ei gyfyngu i Rhif 10 Downing yn dilyn cyswllt â’r AS Torïaidd, Lee Anderson, a brofodd yn bositif am y coronafeirws.
Roedd i’w glywed yn tuchan a grwgnach yn ystod y sesiwn.
Atebodd Boris Johnson: “Rwy’n credu bod gweinidogion y Llywodraeth yn gweithio’n galed ac maen nhw i gyd yn gwneud gwaith rhagorol wrth gyflawni blaenoriaethau’r bobol – a dyna beth fyddwn ni’n parhau i’w wneud.”
Amddiffyn Priti Patel
Amddiffynnodd Boris Johnson Priti Patel gan ddweud ei bod yn “bwrw ymlaen â chyflawni blaenoriaethau’r bobl”.
Ddoe (Tachwedd 24), dywedodd Boris Johnson nad oedd “dim lle i fwlio”, ond ei fod yn “llwyr hyderus” yn Priti Patel a “bod y mater hwn bellach wedi dod i ben”.
Cwestiynodd Keir Starmer y penderfyniad i ganiatáu i’r Ysgrifennydd Cartref aros yn ei swydd yn dilyn adroddiad ar ei hymddygiad a ganfu ei bod wedi gweiddi a rhegi ar staff.
Dywedodd: “Pa neges mae’r Prif Weinidog yn credu y mae’n ei hanfon bod yr ymgynghorydd annibynnol ar safonau wedi ymddiswyddo ond bod yr Ysgrifennydd Cartref yn dal yn ei swydd?”
Atebodd Mr Johnson: “Mater iddo ef yn unig yw penderfyniadau Syr Alex Allan, ond mae’r Ysgrifennydd Cartref wedi ymddiheuro am ei hymddygiad – ac a dweud y gwir, nid wyf yn ymddiheuro am amddiffyn yr Ysgrifennydd Cartref sydd, fel y dywedais, yn bwrw ymlaen â chyflawni blaenoriaethau’r bobol.”
“Gwastraffu arian trethdalwyr”
Galwodd Syr Keir Starmer ar y Prif Weinidog i “gyfaddef” faint o arian sydd wedi cael ei wastraffu ar offer cyfarpar diogelu personol na ellir ei defnyddio.
Dywedodd: “Ers wythnosau rwyf wedi mynegi pryder am y Llywodraeth yn gwastraffu arian trethdalwyr ar gytundebau nad ydynt yn cyflawni.
“Mae’r broblem hyd yn oed yn waeth nag yr oeddem yn ei feddwl. Yr wythnos hon, mae ymateb gan Swyddfa’r Cabinet yn awgrymu fod y Llywodraeth wedi prynu nid yn unig 50 miliwn o eitemau na ellir eu defnyddio, ond 180 miliwn.
“Ac mae adroddiad newydd y bore yma gan y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn nodi rhagor o archebion gwerth cyfanswm o £214 miliwn ar gyfer masgiau wyneb i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol na ellir eu defnyddio.
“Felly a fydd y Prif Weinidog yn cyfaddef faint o arian trethdalwyr sydd wedi’i wastraffu ar offer na ellir ei ddefnyddio?”
Atebodd Boris Johnson: “Mewn gwirionedd, roedd 99.5% o’r cyfarpar diogelu personol, 32 biliwn o eitemau cyfarpar diogelu personol y mae’r wlad hon wedi’u sicrhau, yn cydymffurfio’n llwyr â’n hanghenion clinigol ar ôl i ni ei wirio.”
Gwrthdaro buddiannau
Awgrymodd Syr Keir Starmer nad yw Boris Johnson yn gwybod faint o arian trethdalwyr sydd wedi’i wastraffu neu “dyw e ddim yn poeni”, cyn iddo dynnu sylw at bryderon ynghylch gwrthdaro buddiannau.
Dywedodd Boris Johnson y byddai unrhyw wrthdaro buddiannau yn amlwg o gyhoeddi manylion y cytundebau i’r Tŷ, gan ychwanegu: “Mae’n ymddangos ei fod yn ymosod ar y Llywodraeth am symud y nefoedd a’r ddaear, fel y gwnaethom, i gael y meddyginiaethau, i gael y cyfarpar diogelu personol, i gael yr offer, i gael y triniaethau yr oedd eu hangen ar y wlad.”
Cymorth tramor
Mynnodd y Prif Weinidog y bydd y Deyrnas Unedig yn “parhau” i ddarparu cefnogaeth i’r “bobol dlotaf a mwyaf bregus y byd”.
Daw hyn ar ôl i Boris Johnson wrthod diystyru torri’r cymorth dramor o fwy na £4 biliwn wrth i’r Trysorlys geisio adfer yr arian sydd wedi cael ei fenthyg gan y Llywodraeth yn ystod y pandemig.
Daeth y newyddion yna’r un pryd â chyhoeddiad am gynyddu gwariant ar amddiffyn.
Yn ystod y sesiwn, dywedodd arweinydd yr SNP yn San Steffan, Ian Blackford: “Mae diogelu’r gyllideb cymorth tramor wedi bod yn ffynhonnell undod a chytundeb ar draws y Tŷ hwn ers tro byd ac yn wir ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig.
“Yn yr etholiad cyffredinol diwethaf, fe ailymrwymodd pob plaid fawr i helpu pobol dlotaf a mwyaf bregus y byd.
“Yn wir, dywedodd un o weinidogion blaenllaw y Llywodraeth, a dyfynnaf, ‘rydym yn paratoi i Brydain allu cyrraedd targed y Cenhedloedd Unedig o wario 0.7% o’r incwm cenedlaethol ar gymorth tramor a dyna yw ein hymrwymiad’. A yw’r Prif Weinidog yn cytuno â’i weinidog?”
Atebodd Mr Johnson: “Rwy’n credu y gall y wlad hon fod yn hynod falch o’r hyn rydym wedi’i gyflawni ar gyfer y bobol dlotaf a mwyaf bregus yn y byd, bydd hynny’n parhau.”
Dywedodd Mr Blackford wedyn: “Rwy’n falch bod y Prif Weinidog i weld fel pe bai’n cytuno â’r dyfyniad oherwydd mai ei eiriau ef a ddyfynnais… dyma’n union a ddywedodd wrth Dŷ’r Cyffredin lai na chwe mis yn ôl ac rwy’n cymryd felly nad yw’r briff (torri cymorth dramor £4bn) yn wir.”
Brexit
Dywedodd Boris Johnson na fydd y Llywodraeth yn ymestyn cyfnod pontio Brexit.
Dywedodd Stephen Farry AS (North Down): “Mae cymuned fusnes Gogledd Iwerddon yn bryderus iawn ei bod bellach yn amhosibl paratoi i weithredu’r protocol yn llawn Ionawr y cyntaf.
“Eu prif flaenoriaeth yw gofyn i’r Undeb Ewropeaidd i addasu’r cyfnod pontio. Mae’r cais hwn yn seiliedig ar barch at y protocol ac nid yw’n ymwneud ag estyniad i’r cyfnod pontio.
“A wnaiff y Prif Weinidog roi ei gefnogaeth i’r ymholiad hwn?”
Atebodd Boris Johnson: “Wrth gwrs dydyn ni ddim yn mynd i ymestyn y cyfnod pontio ond rydyn ni eisiau gwneud trefniadau ymarferol i helpu busnesau yng Ngogledd Iwerddon ac rydyn ni wedi cytuno, er enghraifft, ar gyfnod addasu o flwyddyn fel nad oes dim tarfu ar lif meddyginiaethau.
“Ac rydym eisoes wedi lansio gwasanaeth cymorth masnachwyr gwerth £200m i helpu busnesau bwyd ac amaeth ac eraill ac mae hynny’n mynd i… bydd mwy o fanylion yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.”
“Ac rydym eisoes wedi lansio gwasanaeth cymorth masnachwyr gwerth £200m i helpu busnesau bwyd ac amaeth a bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir.”