Mae’r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, wedi beirniadu cyn-gapten rygbi Lloegr Will Carling am rannu safbwyntiau “peryglus” am y coronafeirws.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd fod gan Carling ddilyniant “sylweddol” ar Twitter a fod peryg i bobol gredu’r hyn mae’n ddweud.

Rhannodd Carling, a ennillodd dri Camp Lawn ac arwain Lloegr i rownd derfynol Cwpan y Byd 1991, fideo yn ddiweddar yn beirniadu’r cyfyngiadau ar deithio.

Ffynonellau Gwybodaeth

Eglurodd Vaughan Gething nad yw pawb yn cael gwybodaeth am y pandemig gan wleidyddion, swyddogion iechyd a’r cyfryngau.

“Er bod niferoedd uchel o bobol yn cael y wybodaeth ganddynt, mae yna bobol sydd ddim,” meddai.

“Mae hefyd yn wir fod yna duedd i bobol sy’n dechrau cael gwybodaeth o ffynonellau fel hyn i beidio â chredu’r hyn y mae gwleidyddion yn ei ddweud.

“Dw i’n cydnabod na fydd pawb yn derbyn popeth rwy’n ei ddweud ac felly yn cydnabod bod angen nifer o leisiau.”

Sbwriel

Roedd Vaughan Gething yn rhannu ei bryder gyda phwyllgor iechyd, gofal cymdeithasol a chwaraeon y Senedd.

“Mae peryg i’r llanw cynyddol o ddamcaniaethau sydd yn gwadu’r feirws arwain at staff iechyd yn cael eu cam-drin.

“Rhannodd Will Carling rywbeth ar ei gyfri Twitter a oedd, yn fy marn i, yn sbwriel, ac mae amrywiaeth o weithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill yn cytuno nad yw’n wir.

“Nawr, efallai nad yw Will Carling yn llais bydd pobol yng Nghymru yn gwrando arno, ond mae perygl i rywun sydd â dilyniant sylweddol ddylanwadu ar bobol.”