Mae’r Deyrnas Unedig wedi gwario £10bn yn ychwanegol ar Gyfarpar Diogelwch Personol (PPE) oherwydd stoc “annigonol”, yn ôl adroddiad.

Roedd penaethiaid yn yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn wynebu prisiau uwch am becyn diogelwch, gan dalu 1,300% yn fwy am rai eitemau o gymharu â phrisiau 2019 yn ystod ton gyntaf pandemig y coronafeirws, meddai’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol.

Yn eu hadroddiad heddiw (dydd Mercher, Tachwedd 25), mae’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn nodi bod darparwyr wedi gwneud “ymdrech enfawr” i hybu cyflenwadau cyfarpar diogelwch personol wrth iddyn nhw sylweddoli na fyddai stoc y wlad yn ddigonol.

Ond ag effaith y pandemig eisoes yn dechrau cael ei theimlo ar draws y byd erbyn dechrau’r gwanwyn, talodd swyddogion “brisiau uchel iawn o ystyried amodau anarferol iawn y farchnad”, meddai’r adroddiad.

Ymateb

“Gan fod pentyrrau PPE yn annigonol ar gyfer y pandemig, roedd angen i’r Llywodraeth gymryd camau brys i hybu cyflenwadau,” meddai Gareth Davies, pennaeth y Swyddfa Archwilio.

“Ar ôl iddyn nhw gydnabod difrifoldeb y sefyllfa… cynyddodd pris PPE yn ddramatig, ac mae hynny ar ei ben ei hun wedi costio tua £10bn i’r trethdalwr.”

Mae Meg Hillier, cadeirydd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Tŷ’r Cyffredin, yn cyhuddo gweinidogion o fod yn “rhy araf o lawer” wrth ymateb, a dywedodd eu bod yn cael eu gadael yn talu’n ormodol am yr offer.

“Doedd y pentwr cenedlaethol ddim yn agos at fod yn ddigon mawr ar gyfer achosion o’r coronafeirws,” meddai’r aelod seneddol Llafur.

“Roedd y Llywodraeth yn llawer rhy araf i gydnabod pa mor ansicr oedd y sefyllfa.

“Pan sylweddolon nhw o’r diwedd, bu’n rhaid i DHSC sgramblo i brynu’r hyn oedd ar ôl wrth i brisiau fynd drwy’r to.”

Prisiau’n amrywio

Nododd adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol fod DHSC, rhwng mis Chwefror a mis Gorffennaf, wedi gwario £12.5bn ar 32bn o eitemau PPE, gyda chynnydd enfawr yn y pris a gafodd ei dalu o’i gymharu â 2019 oherwydd y cynnydd byd-eang yn y galw a’r cyfyngiadau ar allforion mewn rhai gwledydd.

Roedd hyn yn amrywio o gynnydd o 166% yng nghost masgiau resbiradol i gynnydd o 1,310% ym mhris bagiau corff.

Daeth yr archwilydd i’r casgliad, pe bai’r Llywodraeth wedi gallu prynu cyfarpar diogelu personol yn ôl prisiau 2019, y byddai gwariant hyd at fis Gorffennaf eleni wedi bod yn £2.5bn – £10bn yn llai nag a gafodd ei dalu.

“Mae’r adroddiad hwn yn cadarnhau nad oedd gan weithwyr rheng flaen fynediad i PPE digonol yn gynnar yn y pandemig, gan eu rhoi mewn perygl diangen,” meddai Justin Madders, llefarydd iechyd Llafur.

“Does dim dwywaith fod methiant y Llywodraeth i baratoi’n iawn ac ystyried rhybuddion am stoc PPE yn rheswm sylweddol dros y prinder.”