Yr Alban yw’r wlad gyntaf i basio deddfwriaeth i sicrhau bod cynnyrch mislif ar gael yn rhad ac am ddim i bawb.

Fe wnaeth aelodau seneddol bleidleisio’n unfrydol o blaid y ddeddfwriaeth a gafodd ei chyflwyno gan Monica Lennon, llefarydd iechyd Llafur yr Alban.

Dywedodd fod y ddeddfwriaeth yn bwysicach nag erioed oherwydd y coronafeirws.

“Dydy mislif ddim yn stopio ar gyfer pandemig,” meddai’r aelod seneddol fu’n ymgyrchu tros gynnyrch rhad ac am ddim ers iddi gael ei hethol i Holyrood yn 2016.

Dywedodd ei bod hi’n “falch tu hwnt” fod yr Alban yn “arwain y ffordd ac wedi symud yn gyflym mewn cyfnod byr o amser”.

Ychwanegodd fod cyfle bellach i “roi’r gorau i dlodi mislif” a “dod â goleuni a gobaith i’r byd”.

Cydraddoldeb

Mae Aileen Campbell, Ysgrifennydd Cymunedau’r Alban, wedi croesawu’r ddeddfwriaeth fel “eiliad arwyddocaol i gydraddoldeb rhywiol”.

Dywedodd ei bod yn “fraint” cael bod yn Holyrood “ar y diwrnod pan fyddwn ni’n ymrwymo’r Alban i fod y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu i sicrhau bod cynnyrch mislif rhad ac am ddim ar gael i bawb sydd eu hangen”.

“Bydd y ddeddfwriaeth yn gwneud tipyn i ddatblygu cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol yma yn yr Alban ac mewn llefydd eraill, wrth i wledydd eraill ddilyn yr un trywydd â ni,” meddai.

Ymateb elusen

Mae pennaeth yr elusen Plan International UK wedi croesawu’r ddeddfwriaeth newydd.

“Wrth wneud yr ymrwymiad cyntaf o’i fath yn y byd, mae Llywodraeth yr Alban wedi dangos eu bod yn arloeswr wrth herio tlodi mislif, a gobeithio y bydd gwledydd o amgylch y byd yn dilyn eu harweiniad,” meddai Rose Caldwell.

“Gyda’r ddeddfwriaeth hon sy’n garreg filltir, gallai’r Alban fod y wlad gyntaf yn y byd i ddileu tlodi mislif unwaith ac am byth, a gydag arian yn y cartref dan straen yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws, dydy’r angen erioed wedi bod yn fwy.

“Bydd y ddeddf newydd hon yn helpu i sicrhau na fydd yr un ferch na dynes yn yr Alban yn ei chael hi’n anodd fforddio cynnyrch mislif.”

Dywedodd ymhellach fod rhaid mynd i’r afael â diffyg addysg, stigma a chywilydd ynghylch mislif.

“Rydym yn gwybod, er enghraifft, mai dim ond traean (31%) o ferched yn yr Alban sy’n teimlo’n gyfforddus yn gofyn i athrawon am gynnyrch mislif yn yr ysgol,” meddai.

“Dyna pam, ochr yn ochr â chynnyrch rhad ac am ddim, fod angen addysg a hyfforddiant i ferched, ysgolion a rhieni i helpu i herio stigma ac embaras ynghylch mislif yn ogystal â’r gost.”