Mae ymchwil gan Brifysgol Abertawe a’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn nodi bod hanner pobol ifanc gwledydd Prydain wedi methu stopio gofidio yn ystod ymlediad y coronafeirws.

Yn ôl eu pryderon mae’r teimlad o unigrwydd, poeni am y dyfodol a’r feirws ei hun.

Cafodd 2,375 o bobol ifanc yn eu harddegau eu holi rhwng Awst 24 a Medi 8, ac fe ddywedodd tua hanner y rhai wnaeth ymateb nad oedden nhw wedi gallu atal eu hunain rhag poeni yn ystod y bythefnos cyn cael eu holi.

Dywedodd 69% eu bod nhw’n teimlo’n unig yn ystod y pandemig, a 58% eu bod nhw’n teimlo nad oedd ganddyn nhw rywun i droi atyn nhw am sgwrs.

Ac roedd 68% yn poeni am effaith y feirws ar eu dyfodol.

Ymateb

Mae’r Sefydliad Iechyd Meddwl yn gofidio am effaith y feirws ar bobol ifanc.

“Mae ein hymchwil yn dangos lefelau uchel o or-bryder ymhlith y rhai yn eu harddegau, ynghylch sut fydd y pandemig yn effeithio’u dyfodol a’u hiechyd meddwl,” meddai Catherine Seymour, pennaeth ymchwil y Sefydliad Iechyd Meddwl.

“Gallai pryderon y rhai yn eu harddegau am eu dyfodol wanhau eu hyder a’u gobeithion iddyn nhw eu hunain ar adeg allweddol yn eu bywydau sydd eisoes yn un anodd.

“Gallai eu hymdeimlad o ddyfodol mwy llwm hefyd ei gwneud hi’n fwy anodd iddyn nhw ymdopi’n emosiynol.

“Dw i’n poeni’n benodol am y bobol ifanc sy’n dweud eu bod nhw’n aml yn teimlo’n unig heb neb i droi atyn nhw am sgwrs, oherwydd rydyn ni’n gwybod fod cysylltu ag eraill yn ffordd hanfodol bwysig o ymdopi â phrofiadau anodd.”

‘Wedi blino’n lân’

Dywed un o’r rhai wnaeth ymateb i’r holiadur eu bod nhw “wedi blino’n lân”.

“Yn ffodus, mae gen i rywfaint o gefnogaeth ariannol gan fy rhieni ond maen nhw hefyd yn dibynnu arna’ i weithiau a dw i fatha: ‘beth ydw i fod i’w wneud pan dw i fod i helpu fy mrodyr a chwiorydd yn y bore, pan na fedra’ i ffeindio gwaith hyd yn oed?’

“Dw i ddim yn obeithiol iawn o safbwynt gyrfa.”