Mae disgwyl i Boris Johnson gyhoeddi’r buddsoddiad mwyaf yn y lluoedd arfog ym Mhrydain ers diwedd y Rhyfel Oer.

Fe fydd y Prif Weinidog yn amlinellu cytundeb ariannol pedair blynedd gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn er mwyn “trawsnewid” y lluoedd arfog, ynghyd a datblygu prosiectau amddiffyn seibr ac yn y gofod.

Fe fydd yn cynnwys creu asiantaeth sy’n gyfrifol am ddeallusrwydd artiffisial (AI) a chanolfan fydd a’r gallu i lansio’r roced gyntaf o’r Deyrnas Unedig erbyn 2022.

Mae disgwyl i’r cyhoeddiad gael ei wneud yn y Senedd heddiw (Dydd Iau, Tachwedd 19) ac fe fydd yn golygu bod y Weinyddiaeth Amddiffyn yn derbyn £16.5 biliwn ychwanegol.

Daw hyn wrth i Boris Johnson wrthod diystyru torri’r cymorth dramor o fwy na £4 biliwn wrth i’r Trysorlys geisio adfer yr arian sydd wedi cael ei fenthyg gan y Llywodraeth yn ystod y pandemig.

Mae disgwyl i gyhoeddiad y Prif Weinidog am y buddsoddiad milwrol fod yn rhyddhad i benaethiaid y lluoedd arfog sydd wedi bod yn pwyso am setliad i’w caniatáu i gynllunio’n effeithiol ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Boris Johnson ei fod wedi penderfynu gwneud y cyhoeddiad ynghanol y pandemig “oherwydd mae’n rhaid i amddiffyniad y deyrnas ddod yn gyntaf.”

Ychwanegodd: “Mae’r sefyllfa ryngwladol yn fwy peryglus ac yn fwy cystadleuol nag unrhyw adeg ers y Rhyfel Oer ac mae’n rhaid i Brydain sefyll ochr yn ochr â’n cynghreiriaid.”

Daw’r buddsoddiad er gwaethaf adroddiadau bod disgwyl i economi’r Deyrnas Unedig grebachu bron i 11% yn 2020, y perfformiad blynyddol gwaethaf ers mwy na thair canrif.