Bydd pobol ifanc 16 ac 17 oed yn cael pleidleisio mewn etholiadau lleol am y tro cyntaf.

Pasiodd y Senedd y bil i ddiwygio etholiadau lleol ddydd Mercher, Tachwedd 18, fydd yn gostwng yr oedran pleidleisio ac yn rhoi’r bleidlais i ddinasyddion tramor sy’n preswylio’n gyfreithlon yng Nghymru.

Daw hyn union flwyddyn ers cyflwyno newidiadau tebyg i i ganiatáu pobl 16 a 17 mlwydd oed a dinasyddion tramor cymwys i gofrestru i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.

Bydd y Bil hefyd yn cefnogi mwy o amrywiaeth ymysg aelodau etholedig drwy ganiatáu rhannu swyddi a mwy o hyblygrwydd.

‘Adlewyrchu amrywiaeth ein gwlad’

“Bydd y Bil hwn yn sicrhau democratiaeth leol sy’n adlewyrchu amrywiaeth ein gwlad,”  meddai’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James ar ôl i’r Bil gael ei basio.

“Bydd yn darparu ffyrdd newydd i lywodraeth leol gefnogi a gwasanaethu eu cymunedau ac yn adfywio democratiaeth leol yng Nghymru.”

“Mae’r ffyrdd yr ydym yn byw ac yn gweithio yng Nghymru yn newid yn gyson, ac mae’n sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus yn gweithio’n galed i newid yr un mor gyflym.

“Mae unrhyw beth y gallwn ei wneud i wella hygyrchedd a chyfranogiad y cyhoedd mewn llywodraeth leol yn werthfawr iawn i ddemocratiaeth Cymru.”

Bydd hi nawr yn ofynnol i brif gynghorau ddarlledu cyfarfodydd eu cyngor ar lein a bydd modd i bobol sy’n mynychu cyfarfodydd wneud hynny o bell er mwyn ei gwneud yn haws i’r rhai â chyfrifoldebau eraill i sefyll mewn etholiadau.

Mae’r Bil hefyd yn sicrhau y gall awdurdodau lleol arwain y gwaith o lunio’r trefniadau ac ysgwyddo’r cyfrifoldeb dros eu buddiannau cyffredin mewn cynllunio trafnidiaeth, cynllunio defnydd tir a datblygu economaidd.

“Dyma’r cam datganoli nesaf a thrwyddo, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi rhanbarthau Cymru wrth iddynt gael rheolaeth dros y materion sydd o bwys iddynt,” ychwanegodd Julie James.

“Bydd rhai darpariaethau yn y Bil, yn enwedig cyflwyno’r pŵer cymhwysedd cyffredinol a chyd-bwyllgorau corfforedig, yn galluogi cynghorau i adeiladu ar yr arloesi a’r cydweithio sydd wedi bod yn ganolog i’r ymateb i’r pandemig.”

‘Hyblygrwydd, arloesedd, cydnerthedd ac ymatebolrwydd’

Mae’r Bil yn un o ddim ond dau sydd yn cael eu hystyried gan y Senedd yn ystod argyfwng y coronafeirws, sydd yn ôl Arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn dangos pwysigrwydd cynghorau lleol yn ystod y pandemig.

“Ynghyd â phartneriaid yn y Gwasanaeth Iechyd mae cynghorau wedi bod ar reng flaen yr ymateb i’r argyfwng Covid,” meddai’r Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd CLlLC.

“Yn ystod y pandemig, mae cynghorau a’r gweithlu wedi dangos hyblygrwydd, arloesedd, cydnerthedd ac ymatebolrwydd.

“Un o brif themâu’r Bil yw hybu democratiaeth leol ac amrywiaeth, sydd yn flaenoriaeth a rennir gan CLlLC.

“Mae’r Bil yn cyflwyno pleidleisiau i bobl 16-17 mlwydd oed ac yn darparu hyblygrwydd ehangach a chefnogaeth i gynghorwyr, yn unol â galwad CLlLC, gan gynnwys mwy o drefniadau cyfarfod hyblyg, cefnogaeth teulu absennol ac yn caniatáu uwch gynghorwyr i rannu swydd.”

Fodd bynnag rhybuddiodd arweinydd CLlLC fod rhai rhannau o’r Bil wedi achosi cryn drafod, ac mae’n awyddus i barhau i drafod y trefniadau rhanbarthol newydd gyda’r Gweinidog dros Dai a Llywodraeth Leol er mwyn “caniatáu cyn gymaint â phosib o ddisgresiwn lleol a hyblygrwydd.”

Yr wrthblaid yn gwrthwynebu

Pleidleisiodd y Ceidwadwyr Cymreig yn erbyn y Bil gan ei ddisgrifio fel “cyfle a gollwyd”.

“Mae’r Bil hwn, a allai fod wedi sbarduno’r newidiadau sydd eu hangen, yn amlinellu’r cyfleoedd a gollwyd,” meddai Mark Isherwood, Gweinidog Cysgodol Llywodraeth Leol a Chymunedau.”

Cyhuddodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol o anwybyddu tystiolaeth gan gyrff arbenigol yn ymwneud â’r diwygiadau.