Mae dyn wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â llofruddiaeth 21 o bobl yn yr ymosodiadau bom mewn tafarndai ym Mirmingham yn 1974.

Daw’r datblygiad diweddaraf ddyddiau’n unig cyn nodi 46 mlynedd ers y ddau ymosodiad ar Dachwedd 21 1974 yn nhafarndai’r Mulberry Bush a Tavern in the Town. Cafodd hyd at 220 o bobl eu hanafu yn y ddau ddigwyddiad.

Dywed Heddlu’r West Midlands bod swyddogion o’r uned gwrth-frawychiaeth, oedd yn gweithio gyda Gwasanaeth Heddlu Gogledd Iwerddon (PSNI), wedi arestio dyn 65 oed yn ei gartref ym Melfast ddydd Mercher (Tachwedd 18).

Cafodd ei arestio o dan y ddeddf frawychiaeth a’i gludo i’r ddalfa lle mae’n cael ei holi.

Fis yn ôl roedd yr Ysgrifennydd Cartref Priti Patel wedi dweud y byddai’n ystyried cynnal ymchwiliad cyhoeddus i’r ymosodiadau bom.

Yn 1991 cafodd y Chwech Birmingham, oedd wedi’u carcharu ar gam, eu rhyddhau.

Mae teuluoedd y rhai gafodd eu lladd yn yr ymosodiad wedi bod yn ymgyrchu am gynnal ymchwiliad cyhoeddus i’r digwyddiad.