Fe fydd y Deyrnas Unedig yn “llai diogel” os na fydd cytundeb masnach gyda’r Undeb Ewropeaidd (UE), yn ôl y prif swyddog gwrth-frawychiaeth.

Mae’r trafodaethau’n parhau ym Mrwsel wrth i negodwyr geisio sicrhau cytundeb masnach ôl-Brexit cyn y cyfnod trosglwyddo ar Ragfyr 31.

Ac mae Neil Basu, Comisiynydd Cynorthwyol yr Heddlu Metropolitan ac un o brif swyddogion gwrth-frawychiaeth y DU, wedi dweud y  bydd goblygiadau diogelwch os na fydd y ddwy ochr yn dod i gytundeb.

Wrth siarad ar raglen newyddion Channel 4 dywedodd: “Ry’n ni wastad wedi bod yn glir y byddai dim cytundeb o gwbl, a cholli’r gefnogaeth ddiogelwch mae’r UE yn ei darparu, yn gwneud y wlad yn llai diogel.

“Ry’n ni wedi bod yn glir iawn gyda’r Llywodraeth, mae’r Llywodraeth wedi gwrando, a dwi’n gwybod bod y Llywodraeth yn gwneud beth allen nhw i geisio dod i gytundeb.”

Serch hynny, fe awgrymodd na fyddai ymdrechion i fynd i’r afael a brawychiaeth yn cael ei effeithio gan ddiffyg cytundeb o’i gymharu â gwaith arall yr heddlu.

Daw hyn wedi i weinidog cyfiawnder Gogledd Iwerddon Naomi Long rybuddio am gynnydd mewn troseddau trefnedig ar y ffin ag Iwerddon.