Mae disgwyl i Brifysgol Rhydychen gyhoeddi manylion am effeithlonrwydd ei brechlyn coronafeirws yn yr wythnosau nesaf, gyda chanlyniadau’r profion diweddaraf yn awgrymu bod ymateb addawol wedi bod ymhlith oedolion hŷn.

Mae’r profion yn dangos bod y brechlyn yn creu ymateb imiwnedd da ymhlith oedolion iach rhwng 56-69 oed a phobl dros 70 oed.

Yn ôl y data sydd wedi ei gyhoeddi yng nghylchgrawn meddygol The Lancet, fe allai pobl sy’n fwyaf tebygol o ddioddef salwch difrifol neu farwolaeth o Covid-19 gael imiwnedd yn erbyn yn firws, yn ôl ymchwilwyr.

Mae’r astudiaeth o 560 o oedolion – gan gynnwys 240 dros 70 oed – yn dangos bod y brechlyn yn cael gwell ymateb ymhlith pobl oedrannus o’i gymharu ag oedolion ifanc.

Blaenoriaeth

Dywedodd Dr Maheshi Ramasamy, sy’n rhan o Grŵp Brechlyn Rhydychen, mae oedolion hŷn yn flaenoriaeth oherwydd y risg o ddioddef salwch difrifol, “ond ry’n ni’n gwybod eu bod nhw’n tueddu i ymateb yn llai ffafriol i frechlynnau.

“Ry’n ni’n falch iawn i weld bod ein brechlyn nid yn unig yn cael ymateb da ymhlith oedolion hŷn ond hefyd wedi creu ymateb imiwnedd tebyg i’r hyn a welwyd ymhlith ein gwirfoddolwyr ieuengach.

“Y cam nesaf fydd gweld os yw hyn yn arwain at ddiogelu rhag y firws ei hun.”

Mae trydedd ran y profion yn cael eu cynnal ar hyn o bryd ac mae disgwyl canlyniadau effeithlonrwydd yn yr wythnosau nesaf.