Mae adroddiad gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn dangos fod ansawdd y gofal mamolaeth sy’n cael ei ddarparu ledled Cymru yn ddiogel, ond bod angen gwella rhai agweddau.

Yn ôl yr adroddiad, a gafodd ei gynnal cyn cyfnod Covid, roedd mwyafrif y menywod a’r teuluoedd a gafodd eu holi wedi cael profiadau cadarnhaol o ddefnyddio gwasanaethau mamolaeth.

Roedd y mwyafrif llethol hefyd yn fodlon ag ansawdd y gofal a’r cymorth ar bob cam o’r llwybr mamolaeth.

Fodd bynnag, mae’r arolygiadau o 25 o unedau mamolaeth yng Nghymru yn dangos bod angen gwneud mwy i sicrhau bod menywod yn cael eu clywed, a bod angen gwella’r trefniadau ar gyfer rheoli unedau mamolaeth yn ddiogel ac yn effeithiol.

Mae’r adroddiad hefyd yn awgrymu y dylid gwella cefnogaeth iechyd meddwl mewn gwasanaethau mamolaeth.

Ni welwyd unrhyw bryderon sylweddol am y ffordd y caiff gwasanaethau eu goruchwylio ond awgrymwyd y dylid annog diwylliant o adrodd cadarnhaol, clir a thryloyw ym mhob bwrdd iechyd er mwyn sicrhau y gellir cynnal a gwella ansawdd y gofal.

Er bod staff yn ymrwymedig i ddarparu gofal o ansawdd uchel mae’r adroddiad yn dangos fod staff yn gweithio dan bwysau, a’u bod yn teimlo weithiau nad oes digon o staff i’w galluogi i wneud eu gwaith yn iawn.

‘Dda ar y cyfan’

Me Alun Jones, Prif Weithredwr Dros Dro Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi croesawu’r canlyniadau.

“Mae ein hadolygiad wedi dangos bod ansawdd y gofal a ddarperir ledled Cymru yn dda ar y cyfan,” meddai.

“Er bod modd dysgu a gwella er mwyn sicrhau bod pobol yn cael y profiad mwyaf cadarnhaol posibl yn ystod eu llwybr mamolaeth, rydym o’r farn bod gwasanaethau mamolaeth, ar y cyfan, yn cael eu darparu mewn ffordd ddiogel ac effeithiol yng Nghymru.

“Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn ein hadolygiad hyd yma, gan gynnwys staff gwasanaethau mamolaeth a byrddau iechyd, ein paneli rhanddeiliaid a chynghori a’r menywod a’u teuluoedd a rannodd eu profiadau gwerthfawr yn ein harolwg cenedlaethol.’’

Bydd ail gam adolygiad cenedlaethol yn dechrau ddiwedd 2020 ac mae disgwyl i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gyflwyno eu canfyddiadau yn y Gwanwyn.