Mae 169,000 o bobol yn aros am driniaethau Gwasanaeth Iechyd (GIG) yng Nghymru, yn ôl ystadegau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw (Tachwedd 19).
Dyma’r tro cyntaf i ffigurau gael eu cyhoeddi ers mis Mawrth (oherwydd yr argyfwng covid), ac mae’r rhestr wedi chwyddo gan 55,500.
Mae nifer y bobol sydd yn aros dros 36 wythnos am driniaethau ysbyty (sydd wedi’u trefnu) chwe gwaith yn uwch nag oedd ar ddechrau 2020.
“Heddiw, rydym yn ailddechrau cyhoeddi ein data arferol ar gyfer mesur perfformiad y GIG,” meddai Vaighan Gething, y Gweinidog Iechyd.
“Fel y disgwyl, mae cynnydd sylweddol wedi bod mewn amseroedd aros ar gyfer triniaeth ddewisol.
“O ganlyniad i gyfyngiadau newydd o ran cadw pellter cymdeithasol, mesurau llym i reoli haint a mesurau eraill i ddiogelu pobl, ni all y GIG ond cyflawni tua hanner nifer y gweithdrefnau bob dydd, o’i gymharu â’r nifer cyn y pandemig.”
Mi wnaeth y GIG rhoi’r gorau i gyhoeddi’r ffigurau ar ddechrau’r argyfwng er mwyn cyfeirio’i holl ymdrech tuag at frwydro’r feirws.
Mae cyfyngiadau dwys, cyfnodau clo, a’r pwysau ychwanegol ar ysbytai i sicrhau theatrau dihaint, oll wedi cyfrannu at y cynnydd mewn amseroedd aros.
Ymateb Cymdeithas Feddygol Prydain
Wrth ymateb i’r amseroedd aros yn GIG Cymru, soniodd Dr David Bailey, cadeirydd Cyngor Cymru Cymdeithas Feddygol Prydain, fod cleifion sy’n aros mwy na 36 wythnos i ddechrau triniaeth yn yr ysbyty wedi tyfu o 27,314 ym mis Ionawr i 168,944, cynnydd o dros 500%. Dywedodd nad oedd ffigurau o’r fath yn syndod, ond eu bod yn llwm:
“Nid yw’n syndod bod amseroedd aros y GIG yng Nghymru wedi cyrraedd lefelau eithriadol.
“Mae’r ystadegau’n dangos yr effaith sylweddol y mae Covid-19 wedi’i chael ar y GIG yng Nghymru, ac ar fywydau cleifion ar hyd a lled y wlad, gan ohirio triniaethau i lawer.
“Yr hyn sy’n hanfodol nawr, yw negeseuon clir i’r cleifion hyn, y mae llawer ohonynt wedi dioddef, ac yn parhau i ddioddef, oherwydd yr oedi hwn. Gall cyfathrebu clir sy’n rhoi cipolwg ar ble maent yn y system gynnig ychydig o dawelwch meddwl. Bydd cael dim gwybodaeth o gwbl yn peri gofid mawr i lawer.
“Rydym yn croesawu cydnabyddiaeth Llywodraeth Cymru y bydd angen buddsoddiad ychwanegol, gan y bydd hyn yn allweddol wrth leihau’r ffigurau hyn, ond mae angen eglurder arnom ar frys ynghylch beth yn union fydd ar gael a sut y caiff ei wario.
“Mae meddygon yng Nghymru yn parhau’n ymrwymedig i fynd i’r afael â’r oedi, ond rhaid iddynt gael adnoddau a’u diogelu er mwyn gwneud eu gwaith. Rhaid i well profion i gleifion a staff ddod yn flaenoriaeth glir, rhaid parhau i warantu PPE priodol, ynghyd â wardiau diogel Covid penodol mewn ysbytai, er mwyn sicrhau bod y feirws yn cael ei ledaenu gymaint â phosibl.
“Rhaid i ni beidio ag anghofio’r angen i ofalu am y gweithlu, y mae llawer ohonynt wedi bod yn gweithio mewn amgylcheddau risg uchel ers mis Mawrth, mae eu lles yn hollbwysig, hebddynt nid oes gwasanaeth.”
Ymateb y gwrthbleidiau
Wrth ymateb, disgrifiodd Andrew RT Davies AoS, Gweinidog Iechyd Cysgodol y Ceidwadwyr, wedi disgrifio’r sefyllfa fel un sy’n “peri pryder”:
“Mae’r coronafeirws wedi arwain at restrau aros y GIG yn tyfu’n hirach ond nid yw’r pandemig ond wedi tynnu sylw at ba mor wael oedd pethau o’r blaen, a’r cyfan a gawn gan Weinidog Iechyd Llafur yw esgusodion.
“Mae pobl Cymru yn dal i ddal y cyflyrau hyn sy’n bygwth bywyd, ac yn dal i ddibynnu ar y Gweinidog Iechyd i roi mesurau ar waith i glirio’r oedi, er iddo ddweud ei bod yn ‘ffôl’ cael cynllun ar gyfer oedi cyn i’r pandemig ddod i ben.
“Nid yw’n ffôl, ond yn synhwyrol, a bydd yn achub bywydau, oherwydd dim ond yr wythnos ddiwethaf yr oedd arbenigwyr canser blaenllaw yn rhybuddio y gallai cynifer â 2,000 o farwolaethau ddigwydd oherwydd oedi sy’n gysylltiedig â Covid.
“Unwaith eto, mae Ceidwadwyr Cymru yn annog y Gweinidog Iechyd i fynd i’r afael â hyn oherwydd nid niferoedd haniaethol yn unig ydynt.
“Byddai ein cynllun ni yn golygu cynyddu capasiti mewn ysbytai di-Covid fel nad yw cleifion yn cael eu gadael yn aros mewn poen neu bryder diangen.”
Mae Rhun ap Iorwerth, llefarydd Plaid Cymru ar faterion iechyd, hefyd wedi ymateb i’r ystadegau trwy bwysleisio’r angen am ysbytai sydd ond yn trin cleifion heb covid.
“Wrth i ddata newydd ddod i’r amlwg sy’n amlygu’r pwysau aruthrol sydd ar ein GIG (oherwydd y pandemig), mae’r neges ‘Achubwch y GIG’ yn dal yn ffres yn ein meddyliau,” meddai.
“Rhaid i ni gyd, fel unigolion, gymryd y neges honno o ddifri. Ond mae’n rhaid i Lywodraeth chwarae ei rhan hefyd wrth amddiffyn gwasanaethau nad yw’n ymwneud â covid (wrth ddelio â covid hefyd).
“Mae angen cyflymu wrth ddelifro ysbytai sydd ond yn trin cleifion sydd heb covid. Mae stopio lledaeniad y feirws oddi fewn i ysbytai yn fater sydd angen sylw sylweddol.”