Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r cyn bêl-droediwr proffesiynol Gwyn Jones, o Landwrog, a helpodd Wolverhampton Wanderers i ennill pencampwriaeth yr Adran Gyntaf ddwy flynedd yn olynol yn y 1950au.

Bu farw Gwyn yn wyth deg pump oed yng nghartref gofal Bryn Seiont Newydd yng Nghaernarfon lle’r oedd wedi byw ers mis Chwefror eleni ar ôl cael diagnosis o ddementia.

Bydd ei angladd yn cael ei gynnal am 1 o’r gloch ddydd Llun (Tachwedd 23) yng Nghapel Gorffwys y Fali.

Ymhlith y rhai a dalodd deyrnged i Gwyn yr oedd Richard Green, aelod o Gymdeithas Cyn-chwaraewyr Wolves.

“Ar ran pawb yng Nghymdeithas Cyn-chwaraewyr Wolves a chlwb pêl-droed Wolves, hoffwn estyn fy nghydymdeimlad dwys â theulu Gwyn,” meddai.

“Roedd Gwyn yn un o’n haelodau cynharaf, ac yn rhan o garfan fwyaf llwyddiannus Wolves erioed, gan ennill dwy bencampwriaeth, Tarian Elusen yr FA a Chwpan yr FA.

“Ni chaiff ei gyfraniadau ar ac oddi ar y cae yn Wolves fyth mo’u hanghofio a bydd colled fawr ar ei ôl.”

Gwyn yn rhedeg i’r cae

“Ffawd”

Dechreuodd Gwyn ei yrfa yn chwarae i Glwb Pêl-droed Caernarfon, gyda’r bwriad o fynd yn athro cyn i ffawd ymyrryd.

Chwaraeodd mewn gêm elusennol i Bangor Select XI yn erbyn tîm cyntaf Wolves, gan wneud argraff ar gyfarwyddwr y clwb, Jim Marshall, a gynigiodd gyfle iddo chwarae i’r clwb o Ganolbarth Lloegr.

Yn y dyddiau hynny roedd Gwyn yn ennill £15 yr wythnos gyda bonws o £2 am fuddugoliaeth a £1 am gêm gyfartal.

O fewn tri mis, gwnaeth y cefnwr ei ymddangosiad cyntaf yn y tîm cyntaf mewn buddugoliaeth 3-2 dros West Bromwich Albion ym mis Rhagfyr 1955.

Dilynodd hynny gydag buddugoliaethau dros Aston Villa a Chelsea, a buddugoliaeth o 4-0 yn erbyn Manchester United, wrth i Wolves ennill yr Adran Gyntaf yn nhymor 1957/58.

Roedd Gwyn hefyd yn rhan o’r garfan a fyddai’n ennill yr Adran Gyntaf unwaith eto yn 1958/59, gan wneud pedwar ymddangosiad y tymor hwnnw, ac roedd yn rhan o’r tîm yng ngêm Tarian Elusen yr FA (Charity Shield) 1959 ym Molineux, wrth i Wolves ennill o 3 gôl i 1 yn erbyn Nottingham Forest.

Yn ystod ei gyfnod gyda Wolves, aeth Gwyn ar daith i Dde Affrica ac Indonesia a chymryd rhan mewn nifer o gemau cyfeillgar yn erbyn timau mawr Ewrop, gan gynnwys Juventus oedd yn cynnwys arwr pêl-droed Cymru, John Charles, ac Omar Sivori, chwaraewr y flwyddyn yn Ewrop ar y pryd.

Ar ddiwedd ei seithfed tymor ym Molineux, ymunodd Gwyn â Bristol Rovers, gan fynd ymlaen i chwarae dros 150 o gemau i’r clwb hwnnw, a chael ei enwi’n gapten y tîm.

Datgelu sgandal gamblo

Yn ystod ei gyfnod gyda Bristol Rovers, datgelodd Gwyn sgandal betio a siglodd seiliau pêl-droed Lloegr.

Roedd dau chwaraewr Bristol Rovers, Esmond Million a Keith Williams, wedi cytuno i gymryd arian er mwyn colli gêm.

Gwrthododd Gwyn gymryd arian i helpu i golli gêm, gan ddatgelu’r cyfan i’r awdurdodau.

Cafodd y sgandal effaith fawr ar bêl-droed yn Lloegr.

“Dyn hyfryd”

Roedd yr uwch nyrs Debbie Parry, sydd yn gefnogwr enfawr o Wolves, yn falch o allu gofalu am Gwyn ym Mryn Seiont.

“Mi gawson ni sgyrsiau hir am Wolves hyd at wythnosau olaf ei fywyd. Y tymor diwethaf roeddwn i’n mynychu gemau ac yn eu gwylio ar y teledu ac roedd Gwyn bob amser yn awyddus i siarad am y gemau,” meddai.

“Roedd ganddo fathodyn Wolves a Bristol Rovers ar ddrws ei ystafell wely bob ochr i’w enw. Roedd bob amser yn cyfeirio at ei ddyddiau yn chwarae i Wolves fel y ‘dyddiau da’.

“Mae gen i gortyn gwddw Wolves lle dw i’n cadw fy ngoriadau. Bob tro y byddai Gwyn yn ei weld, byddai ei wyneb yn goleuo a byddai eisiau ei gyffwrdd. Roedd yn ddyn mor hyfryd, ac rydyn ni’n mynd i’w golli’n ofnadwy.”