Mae Prif Hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, yn edrych ymlaen at weld rhagor o chwaraewyr newydd yn ennill eu capiau cyntaf i Gymru ddydd Sadwrn.
Ymhlith 13 o newidiadau i’r tîm fydd yn wynebu Georgia ym Mharc y Scarlets mae’r Prif Hyfforddwr wedi enwi tri chwaraewr fydd yn ennill eu capiau cyntaf i Gymru.
Bydd Kieran Hardy, Johnny Williams a James Bothan yn dechrau, a gall Ioan Lloyd hefyd ennill ei gap cyntaf o’r fainc.
Mae Wayne Pivac eisoes wedi rhoi capiau cyntaf i Sam Parry, Louis Rees-Zammit a Callum Sheedy yn ystod gemau’r Hydref.
‘Hyderus bydd tîm ifanc Cymru’n fuddugol’
“Mae’n gyfnod cyffrous iawn,” meddai Wayne Pivac mewn cynhadledd i’r wasg wedi iddo enwi ei dîm.
“Rydyn ni wedi bod yn edrych ar bob dim mae’r chwaraewyr wedi bod yn ei wneud wrth hyfforddi.
“Wrth gwrs mae rhywfaint o’r newidiadau hyn wedi eu gorfodi arnon ni gan anafiadau,”
“Cafodd Taulupe Faletau a Jonathan Davies gnoc yn ddiweddar ac er ein bod ni wedi gobeithio y byddai Josh Navidi a Ross Moriarty yn ôl erbyn y gêm yma doedd hynny ddim yn bosib.
“Ond rydyn ni’n hyderus y gall y grŵp yma o chwaraewyr fod yn fuddugol.
“Y cynllun o’r cychwyn oedd rhoi cyfle i wahanol chwaraewyr o fewn y garfan.
“Erbyn diwedd gemau’r Hydref bydd pawb wedi cael cyfle i chwarae.
“Rydyn ni wedi cadw at ein gair ar hynny.”
Ychwanegodd Wayne Pivac fod y maswr Rhys Patchell a’r asgellwr George North, sydd heb eu cynnwys yn y garfan i wynebu Georgia, wedi eu rhyddhau yn ôl i’w rhanbarthau.
Tîm Cymru
Olwyr: Liam Williams, Johnny McNicholl, Nick Tompkins, Johnny Williams*, Louis Rees-Zammit, Callum Sheedy, Kieran Hardy*
Blaenwyr: Wyn Jones, Elliot Dee, Samson Lee, Jake Ball, Seb Davies, James Botham*, Justin Tipuric (C), Aaron Wainwright
Eilyddion: Sam Parry, Nicky Smith, Leon Brown, Cory Hill, James Davies, Rhys webb, Ioan Lloyd*, Jonah Homes
*Cap cyntaf