Mae Cymru’n mynd i Ewro 2020 yn hyderus y gallan nhw guro unrhyw un, meddai Harry Wilson.

Sicrhaodd Cymru ddyrchafiad yng Nghyngrhair y Cenhedloedd nos Fercher (Tachwedd 18) gyda buddugoliaeth 3-1 dros y Ffindir yng Nghaerdydd.

Roedd y fuddugoliaeth hefyd bron yn gwarantu lle yng ngemau ail-gyfle Cwpan y Byd i Gymru.

Mae’r fuddugoliaeth hefyd wedi ymestyn eu rhediad diguro mewn pêl-droed cystadleuol i 11 gêm, y gorau yn hanes pêl-droed Cymru.

“Gallwch weld yr ansawdd sydd gennym yn y tîm,” meddai Wilson.

“Rwy’n credu mai ysbryd y tîm ydi pa mor agos ydyn ni i gyd. Gallwch weld ar y cae ein bod yn gweithio’n galed i’n gilydd, ac oddi ar y cae rydym i gyd yn ffrindiau mawr.

“Mae hynny’n sicr yn ein helpu a phan ’da ni ar y cae… rydyn ni bob tro’n hyderus yn ein gallu a gallwn guro unrhyw un rydyn ni’n dod yn ei erbyn.”

Harry Wilson sgoriodd y gôl gyntaf yn erbyn y Ffindir, ei bedwerydd i Gymru a’r gyntaf mewn gêm gartref.

Mae’r asgellwr, sydd ar fenthyg yng Nghaerdydd o Lerpwl, yn credu y bydd Cymru’n elwa o chwarae’r gwledydd gorau yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

“Rydym wedi cael dyrchafiad a dyna oedd ein nod,” meddai wrth Sky Sports.

“Dyma lle rydan ni eisiau bod, yn chwarae yn erbyn y chwaraewyr gorau yn Ewrop a’r byd.

“Gwella gydag amser”

Aeth Harry Wilson ymlaen i ddweud: “Roedd gennym lawer o chwaraewyr ifanc ar y cae ac weithiau mae diffyg profiad yn gallu dangos.

“Bydd hynny’n dod gydag amser ac wrth chwarae pêl-droed cystadleuol bob wythnos.

“Mae’r chwaraewyr hyn wedi gosod safonau ac mae gennym bobol fel Joe Allen ac Aaron Ramsey i ddod yn ôl i’r garfan hefyd.

“Mae’r rhai ifanc yn mynd i wella gydag amser.”