Mae Cymru wedi ennill dyrchafiad i Gynghrair A yng Nghynghrair y Cenhedloedd ar ôl trechu’r Ffindir o 3-1 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae’n golygu eu bod nhw gam yn nes bellach at gymhwyso ar gemau ail gyfle Cwpan y Byd 2022, a’u bod nhw wedi cwblhau eu rhediad di-guro hiraf erioed mewn gemau cystadleuol.

Daeth y goliau allweddol gan Harry Wilson, Daniel James a Kieffer Moore, wrth i Gymru ildio gôl ar ôl cadw saith llechen lân yn olynol.

Cymru, cyn heno, oedd yr unig dîm yn y gystadleuaeth oedd heb ildio’r un gôl, ac roedden nhw’n dechrau un pwynt ar y blaen i’r Ffindir.

Tarodd yr ymwelwyr yn ôl yn yr ail hanner i’w gwneud hi’n 2-1 cyn i Moore benio’r drydedd gôl chwe munud cyn y diwedd.

Bu’n rhaid i’r Ffindir chwarae â deg dyn am 78 munud o’r gêm ar ôl i Jere Uronen dynnu Wilson i lawr ac yntau â’i gorff tuag at y gôl.

Manylion

Gwnaeth Cymru dri newid i’r tîm, wrth i Connor Roberts, James Lawrence a Harry Wilson ddod i mewn yn lle Neco Williams, Ben Davies oherwydd gwaharddiad, a David Brooks.

Roedd y Ffindir, yn y cyfamser, heb eu capten Tim Sparv oherwydd gwaharddiad, a’r ymosodwr Joel Pohjanpalo sydd wedi torri ei droed.

Daeth cyfle cynnar i Gareth Bale yn sgil gwendid amddiffynnol wrth glirio’r bêl, ond roedd yr arbediad yn un hawd i Lukas Hradecky yn y gôl.

Roedd y Ffindir i lawr i ddeg dyn yn rhy gynnar yn yr ornest ac fe wnaeth Cymru fanteisio ar hynny wrth ymosod.

Llwyddodd Bale i ddianc rhag yr amddiffynnwr Joona Toivio i lithro’r bêl i lwybr Wilson, wrth iddo sgorio’i bedwaredd gôl ryngwladol, a’i gyntaf yng Nghymru.

Daeth yr ail gôl o ganlyniad i fygythiad ymosodol yr eilydd Moore, wrth i Joe Morrell ganfod Daniel James ar yr asgell, a hwnnw’n sgorio’i drydedd gôl ryngwladol ag ergyd o ugain llath.

Daeth Bale oddi ar y cae ar gyfer yr hanner awr olaf, a Joe Rodon yn cymryd y gapteniaeth, ond roedd yr amddiffynnwr canol yn ei chanol hi bron yn syth wrth i’w gamgymeriad yn y cwrt cosbi roi’r cyfle ar blât i Teemu Pukki rwydo.

Fe wnaeth y Ffindir ddarganfod ychydig o fomentwm wrth i Nicholas Hamalainen a Toivio fynd yn agos, ac roedd diweddglo’r gêm yn un nerfus i Gymru cyn i Moore benio’r drydedd gôl gyda chymorth James.

A’r sgôr yn 3-1, y Ffindir gafodd y gair olaf ar y cae wrth i Pukki daro’r postyn, ond noson Cymru oedd hon yn y pen draw.