Mae maswr newydd Cymru, Callum Sheedy, wedi cael ei ddisgrifio fel “ased enfawr i unrhyw dîm” gan Gyfarwyddwr Rygbi Bryste.
Daeth Sheedy ymlaen i ennill ei gap cyntaf yng ngem agoriadol Cwpan Cenhedloedd yr Hydref yn Nulyn.
Ond colli wnaeth Cymru o 32-9 yn erbyn y Gwyddelod.
Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr Cymru, eisoes wedi dweud y bydd tîm gwahanol iawn yn wynebu Georgia ym Mharc y Scarlets ddydd Sadwrn (Tachwedd 21).
Mae’n bosib felly y bydd Sheedy yn cael ei gyfle cyntaf i ddechrau yng nghrys coch Cymru.
Chwaraeodd y maswr 25 oed ran allweddol i Fryste’r tymor diwethaf gan gicio 22 pwynt yn rownd derfynol Cwpan Her Ewrop i sicrhau buddugoliaeth dros Toulon.
‘Dechrau’r daith’
“Rwy’n gyffrous iawn ac yn falch iawn ohono,” meddai Pat Lam, Cyfarwyddwr Rygbi Bryste.
“Mae ar ddechrau’r daith, ac rwy’n credu mai’r peth mawr yw – hyd yn oed heb y rygbi – mae Callum yn berson gwych.
“Fel dywedais wrth Wayne [Pivac] mae’n chwaraewr sy’n ased enfawr i unrhyw dîm.
“Rwy’n credu mai’r peth mawr i Callum, yw gwneud yn siŵr bod y bechgyn o’i amgylch yn ymddiried ynddo.
“A dyna beth mae’n dda yn ei wneud.
“Nid yw ein gêm yn ymwneud â 10 sydd yn rhedeg popeth.
“Mae’n ymwneud â chydweithio a gwneud yn siŵr os yw Liam Williams er enghraifft eisiau croes gic, bydd Callum yn rhoi un iddo. Os bydd [Nick] Tompkins neu Jonathan Davies yn gofyn am gic drwodd, dywedwch wrtho, a bydd yn gwneud hynny.”
Er iddo chwarae i dîm cyntaf Lloegr mewn gêm ddi-gap yn erbyn y Barbariaid y llynedd mae bellach ynghlwm a Chymru.
“Ar ôl siarad â Wayne, mae’n amlwg ei fod wedi ffitio i mewn yn dda iawn yn y grŵp,” ychwanegodd Pat Lam.
“Bydd yn gyffrous os caiff y cyfle, a dw i’n ffyddiog bydd yn dod a’r bechgyn o’i amgylch ynghyd, a bydd yn gwneud beth bynnag sydd ei angen ar gyfer y tîm.
“Bydd yn iawn, ac ar ôl y colledion diweddar does ond un ffordd i feddwl. Nid meddwl am y fuddugoliaeth, ond meddwl am y perfformiad sy’n bwysig.
“A does dim amheuaeth, os yw Callum yn gwisgo’r crys 10, bydd yn rhan allweddol yn arwain ei gyd chwaraewyr ac yn cydweithio’n dda.”
Bydd Wayne Pivac yn enwi ei garfan i wynebu Georgia am 12.00 ddydd Iau, Tachwedd 19.