Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, wedi dweud wrth golwg360, wrth ymateb i ddigwyddiadau ar y Cae Ras yn Wrecsam yr wythnos hon, y dylid cofio bod y cefnogwyr yn rhan allweddol o ddiwylliant clybiau pêl-droed.

Mae cefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam wedi derbyn cynnig gan ddau o sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney i brynu’r clwb oedd wedi gostwng o’r Gynghrair Bêl-droed ar ôl cyfnod o 87 mlynedd pan oedd Steve Cooper yn hyfforddi chwaraewyr yr Academi yn 2008.

Daeth cyfnod Cooper o ddegawd i ben yn fuan wedyn, wrth iddo gael ei benodi i hyfforddi yn Academi Lerpwl.

“Fel mae [cae] Abertawe ar gyrion y ddinas, mae’r Cae Ras yng nghanol y dref ac mae clybiau pêl-droed yn rhan bwysig o gymunedau, on’d ydyn nhw?” meddai.

“Mae ein clwb ni [yn bwysig] yn sicr, ac mae’n rhywbeth dw i’n cael fy atgoffa ohono fe fy hun, a dw i’n sicr yn atgoffa’r chwaraewyr.

“Gallai Wrecsam fod yr un fath, ond felly hefyd gymaint o glybiau eraill.”

Wrecsam yn gallu tynnu ar brofiadau Abertawe?

Roedd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Abertawe’n destun eiddigedd yn y byd pêl-droed wrth iddyn nhw gaffael y clwb yn dilyn cyfnod cythryblus o dan berchnogaeth y dyn busnes Tony Petty.

Roedd e wrth y llyw am dri mis ar ddiwedd 2001 pan fu bron i’r clwb, oedd yn chwarae yn yr Ail Adran – y gynghrair isaf yn y Gynghrair Bêl-droed – fynd i’r wal, ac fe ddaeth criw o gefnogwyr ynghyd i geisio prynu a sefydlogi’r clwb.

Roedd protestiadau mawr yn y ddinas ar ôl i Petty geisio diswyddo rhan fwya’r tîm cyntaf a dau hyfforddwr er mwyn arbed costau, ac fe gafodd yr ymdrechion hynny eu hatal gan y Gynghrair Bêl-droed yn y pen draw.

Gadawodd Petty y clwb yn Ionawr 2002, ar yr unfed awr ar ddeg i’r clwb a oedd, yn ôl adroddiadau, 24 awr i ffwrdd o ddiflannu’n gyfangwbl.

Arhosodd yr Elyrch yn y Gynghrair ar ddiwrnod olaf tymor 2002-03 ac roedd yn fan cychwyn ar gyfer adeiladu’r clwb a fyddai, ymhen wyth mlynedd, yn cystadlu yn erbyn mawrion Uwch Gynghrair Lloegr bob wythnos, gan gyrraedd Cynghrair Europa ar ôl ennill Cwpan Capital One.

All Wrecsam fynd o nerth i nerth yn yr un ffordd?

Er mai at Abertawe y byddai’r rhan fwyaf o gefnogwyr pêl-droed yn troi i weld pam fod ymrwymiad cefnogwyr i’w clwb mor bwysig a llwyddiannus, doedd y cysyniad ddim yn un newydd pan gafodd yr Ymddiriedolaeth ei sefydlu.

Abertawe oedd y clwb cyntaf yng Nghymru i fynd i berchnogaeth y cefnogwyr, ond y 35ain clwb yn y Gynghrair Bêl-droed, ac fe ddaeth i’r amlwg yn 2007 fod Mindy Kaling, actores Americanaidd, yn un o gonsortiwm o fuddsoddwyr yn y clwb.

Mae’n deg dweud nad yw Americanwyr wedi bod yn boblogaidd yn Stadiwm Liberty ers i Abertawe ostwng o’r Uwch Gynghrair yn 2018, ac mae yna wersi i’w dysgu pe bai Wrecsam yn edrych tua’r de.

Cafodd Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam ei sefydlu yn 2002, ar yr union adeg pan oedd yr Elyrch ar y gwaelodion ac erbyn 2004, fe gwympon nhw o’r Adran Gyntaf i’r Ail Adran ar ôl colli pwyntiau am fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Roedd ymgais i werthu’r Cae Ras yn 2005 ac fe aeth yr achos i’r Uchel Lys gyda’r cefnogwyr yn ennill yr achos hwnnw ac yn y Llys Apêl ac fe gafodd y clwb ei brynu gan ddynion busnes.

Cwympodd Wrecsam o’r Gynghrair Bêl-droed yn 2008.

Erbyn 2011, pan gododd yr Elyrch i’r Uwch Gynghrair, roedd tro ar fyd yn Wrecsam hefyd.

Fe wnaeth Ymddiriedolaeth y Cefnogwyr godi £500,000 i ddiogelu dyfodol y clwb ac fe wnaethon nhw ei brynu ac etifeddu’r dyledion o £750,000 fel rhan o hynny, a chael cymorth Prifysgol Glyndŵr oedd wedi prynu’r Cae Ras.

Daeth peth llwyddiant ar unwaith wrth orffen yn ail yn y Gyngres cyn colli yn rownd gyn-derfynol y gemau ail gyfle.

Enillon nhw Dlws FA Lloegr yn 2013 cyn colli yn rownd derfynol y gemau ail gyfle.

Fe wnaeth yr ymddiriedolaeth gaffael y les ar y Cae Ras am 99 mlynedd yn 2016.

“Dw i ddim yn gwybod y manylion i gyd yn Wrecsam,” meddai Steve Cooper.

“Yn amlwg, mae gyda fi fwy o syniad yma [yn Abertawe] oherwydd mae gyda fi ddiddordeb yn yr hanes o ran pam fod pethau fel maen nhw.

“Ond dw i ddim yn gwybod llawer am Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, a oedden nhw wedi gwneud gwaith da neu beidio.

“Ond dw i’n siŵr, pe bai cymdeithasau cefnogwyr y ddau glwb yn dod ynghyd, y gallai’r bois yn Abertawe roi gwybodaeth dda iddyn nhw am y ffordd ymlaen.

“Mae cymdeithasau cefnogwyr yn bwysig a dylen nhw fod â rhan fawr i’w chwarae yn niwylliant clybiau, nid dim ond yma neu yn Wrecsam, ond ym mhob clwb, mewn gwirionedd.

“Mae’r cefnogwyr yn allweddol, yn enwedig ar adegau fel hon pan nad oes modd iddyn nhw ddod trwy’r gatiau.

“Rydych chi eisiau iddyn nhw barhau’n gysylltiedig ac i geisio’u barn nhw, a dw i’n credu bod hynny’n hanfodol.”