Bydd Cymru yn wynebu Seland Newydd ac Awstralia yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2021.

Mae tîm merched Cymru sydd yn y nawfed safle yn netholion y byd wedi eu dewis yn yr un grŵp a Seland Newydd sy’n cynnal y gystadleuaeth, Awstralia, a thîm arall sydd eto i gymhwyso ar gyfer y gystadleuaeth.

Roedd Prif Weinidog Seland Newydd Jacinda Ardern ymhlith rheini oedd yn gyfrifol am wneud y dewisiadau.

Daw hyn ar ôl i Undeb Rygbi Cymru gyhoeddi hyfforddwyr newydd ar gyfer y tîm rygbi merched Cymru.

Warren Abrahams yw prif hyfforddwr newydd tîm rygbi merched Cymru a chyn-gapten Cymru, Rachel Taylor sydd wedi ei phenodi yn hyfforddwr sgiliau cenedlaethol i’r tîm.

Wedi iddo gael ei benodi dywedodd Abrahams, s’yn enedigol o Dde Affrica, mai’r gystadleuaeth yn Seland Newydd yw ei flaenoriaeth.

Dyma fydd y Cwpan Rygbi’r Byd cyntaf i fenywod i gael ei chynnal yn hemisffer y de, ac yn cael ei chynnal rhwng Medi 18 a  Hydref 16 2021.

Bydd gemau’n cael eu chwarae yn Stadiwm Waitakere, Canolfan Ddigwyddiadau Northland a Pharc Eden.