Mae rheolwr Cymru Jayne Ludlow wedi cyhoeddi carfan o 26 chwaraewr i wynebu Belarws yng ngêm olaf y rownd ragbrofol UEFA Ewro Merched 2022 ddechrau mis Rhagfyr.

Fe all buddugoliaeth yn erbyn Belarws sicrhau lle i Gymru yn y gemau ail gyfle am y tro gyntaf erioed.

Ond bydd yn rhaid i Ogledd Iwerddon golli yn eu gêm nhw yn ebryn Belarws er mwyn i Gymru orffen y grŵp yn yr ail safle.

Mae Ludlow wedi cynnwys Esther Morgan a Caitlin Morris yn y garfan am y tro gyntaf. Mae’r ddwy wedi cynrychioli timau iau Cymru, ac roedd Morgan yn gapten i’r tîm dan 19 yn ystod rownd ragbrofol Pencampwriaeth UEFA Ewro Merched dan 19 y llynedd.

Mae’r capten Sophie Ingle, Jess Fishlock a Natasha Harding wedi eu cynnwys ac yn cynnig y profiad sydd ei angen ar y garfan.

Ond ni fydd Anna Filbey ar gael oherwydd anaf i’w throed ac mae Megan Wynne yn dal i wella o anaf i’w choes.

Cymru: Laura O’sullivan, Claire Skinner, Olivia Clark, Jess Fishlock, Sophie Ingle, Hayley Ladd, Gemma Evans, Rhiannon Roberts, Angharad James, Nadia Lawrence, Rachel Rowe, Natasha Harding, Elise Hughes, Helen Ward, Kayleigh Green, Josie Green, Lily Woodham, Maria Francis-Jones, Ffion Morgan, Kylie Nolan, Carrie Jones, Georgia Walters, Chloe Williams, Esther Morgan, Caitlin Morris, Charlie Estcourt