Mae Undeb Rygbi Cymru wedi cyhoeddi mai Warren Abrahams, cyn-hofforddwr cynorthwyol tîm saith bob ochr menywod yr Unol Daleithiau, yw prif hyfforddwr newydd tîm rygbi merched Cymru.

Mae cyn-gapten Cymru, Rachel Taylor hefyd wedi ei phenodi yn hyfforddwr sgiliau cenedlaethol i’r tîm.

Abrahams yw hyfforddwr cenedlaethol croenddu cyntaf Undeb Rygbi Cymru, a Taylor yw’r hyfforddwr benywaidd proffesiynol cyntaf.

Bydd y ddau yn dechrau ar unwaith er mwyn paratoi ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd yn Seland Newydd y flwyddyn nesaf.

‘Cyfle i wneud rhywbeth arbennig’

“Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i fod yn rhan dim hyfforddi merched Cymru ac mae gennym gyfle i wneud rhywbeth arbennig iawn yn ystod y 12 mis nesaf a thu hwnt,” meddai Warren Abrahams.

“Dyma fy rôl prif hyfforddwr rhyngwladol cyntaf ond rwy’n teimlo fy mod wedi gweld, profi a dysgu digon i greu amgylchedd perfformiad uchel sy’n darparu profiadau cofiadwy.”

Treuliodd Abrahams, sydd yn enedigol o Dde Affrica, gyfnod yn hyfforddi tîm saith bob ochr dynion Lloegr, cyn gweithio i’r Harlequins fel hyfforddwr academi.

Mae wedi llofnodi cytundeb tair blynedd gydag Undeb Rygbi Cymru.

“Mae gennym oddeutu 38 wythnos cyn y byddwn yn mynd i Seland Newydd – dydy hynny ddim yn lawer o amser, ond yn yr hinsawdd sydd ohoni mae’n rhaid i ni wneud y mwyaf o’r amser a’r adnoddau.”

Wedi i Rowland Phillips adael ei swydd fel prif hyfforddwr, Chris Horsman a Darren Edwards fu’n arwain tîm y menywod yn ddiweddar.

Ond methodd y tîm ag 0ennill gêm yn ystod pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn eleni.

‘Trawsnewid chwaraewyr i fod yn athletwyr rhyngwladol’

Ychwanegodd Rachel Taylor, sydd yn dilyn ôl traed Liza Burgess ac Amanda Bennett fel hyfforddwyr benywaidd Undeb Rygbi Cymru fod ei phrofiad diweddar wedi bod yn “amhrisiadwy”.

“Mae fy mhrofiad i o weithio gyda thîm cymunedol Undeb Rygbi Cymru ac yn fwy diweddar tîm perfformiad y Pwyllgor Datblygu Rhanbarthol yn ystod y pum mlynedd diwethaf wedi bod yn amhrisiadwy,” meddai.

“Rwy’n edrych ymlaen at ddatblygu’r cysylltiadau hynny a chefnogi’r broses o drawsnewid chwaraewyr i fod yn athletwyr rhyngwladol.

“Ar ôl bod i dri Chwpan Rygbi’r Byd fel chwaraewr, gwelais i gymaint mae’r gystadleuaeth wedi datblygu.

“Dyma binacl rygbi rhyngwladol merched a dwi’n edrych ymlaen i’r chwaraewyr gael y cyfle i gystadlu yn Seland Newydd.

“Rwy hefyd yn edrych ymlaen at weithio gyda Warren.

“Rwy’n gwybod y bydd o les i fi fel hyfforddwr a chredaf y bydd fy mhrofiad a’m sgiliau yn helpu i gyrraedd ein targedau hefyd.”