Mae rheolwr tîm pêl-droed y Ffindir yn dweud bod ei dîm yn barod i herio Cymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd yng Nghaerdydd heno (nos Fercher, Tachwedd 18).
Mae Cymru ar frig y tabl ar hyn o bryd ac yn mynd am ddyrchafiad yn y gystadleuaeth, ond mae Markku Kanerva a’i dîm yn gobeithio difetha’r parti.
Mae’r Ffindir eisoes wedi cyrraedd rowndiau terfynol Ewro 2020, y tro cyntaf iddyn nhw gyrraedd un o’r prif gystadlaethau.
Maen nhw bellach yn cwrso ail ddyrchafiad yn olynol yng Nghynghrair y Cenhedloedd, ond mae’n rhaid iddyn nhw guro Cymru i’w hatal rhag codi i Gynghrair A.
Mae Cymru, sydd wedi bod heb eu rheolwr Ryan Giggs ers iddo gael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ei gariad, yn ddi-guro mewn deg gêm, gan gadw saith llechen lân.
Torri rhediad
“Mae’r tîm hwn wedi creu hanes o’r blaen ac wedi torri recordiau hefyd, ac rydyn ni eisiau torri eu rhediad braf iawn,” meddai Markku Kanerva.
“Men nhw wedi gwneud yn dda iawn gartref heb ildio gôl, felly mae’n mynd i fod yn anodd creu cyfleoedd i sgorio yn eu herbyn nhw.
“Ond mae gyda ni rai cynlluniau o ran lle gallwn ni eu brifo nhw.”
Cymru oedd yn fuddugol y tro diwethaf iddyn nhw gyfarfod ym mis Medi, a hynny o 1-0 yn Helsinki wrth i Kieffer Moore rwydo.
Ers hynny, mae’r Ffindir wedi ennill pedair gêm, gan gynnwys Bwlgaria, Gweriniaeth Iwerddon ddwywaith, a Ffrainc – canlyniad mae’n dweud oedd yn hwb i’w hyder cyn herio Cymru, sydd mewn perygl o fod yn “oddefol”, meddai.
“Ond mae’n her enfawr i ni guro Cymru, yn enwedig gartref lle maen nhw wedi bod yn gryf iawn,” cyfaddefa’r rheolwr.
“Mae gyda ni dipyn yn y fantol oherwydd rydyn ni’n cystadlu i ennill y grŵp hwn a dyrchafiad i Gynghrair A.
“Ond yn aml, os yw gêm gyfartal yn ddigon i chi, fe all wneud i chi fod ychydig yn oddefol. Mae’n berygl iddyn nhw.
“Mewn ffordd arall, os oes rhaid i chi ennill y gêm, yna yn negyddol, fe allwch chi anghofio amddiffyn a gall y gwrthwynebwyr eich brifo chi.
“Ond gobeithio y gallwn ni sgorio cwpwl o goliau ac ennill y gêm.”
Ond bydd rhaid iddyn nhw wneud hynny heb eu capten Tim Sparv, sydd wedi’i wahardd, a’r ymosodwr Joel Pohjanpalo, sydd wedi torri’i ffêr.