Mae Bwrdd Criced Cymru a Lloegr wedi cyhoeddi bwriad i gynnal gêm undydd 50 pelawd rhwng Lloegr a Phacistan yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf.

Fe ddaw wrth iddyn nhw ddatgan eu bwriad i gynnal haf cyfan o gemau er gwaetha’r coronafeirws oedd wedi cwtogi’r tymor yn sylweddol eleni, a rhai gemau rhyngwladol wedi’u cynnal mewn lleoliadau bio-ddiogel yn Lloegr yn unig.

India yw’r ymwelwyr ar gyfer cyfres o gemau prawf, tra mai Sri Lanca fydd yr ymwelwyr ar gyfer gemau 50 pelawd a Phacistan ar gyfer gemau ugain pelawd.

Bydd tîm merched Lloegr yn herio De Affrica a Seland Newydd mewn gemau 50 pelawd ac ugain pelawd yn Lloegr yn unig.

Mae disgwyl cyhoeddiad ynghylch rhagor o gemau maes o law, gyda’r caeau rhyngwladol wedi’u gwahodd i wneud ceisiadau i gynnal gemau, ond mae rhybudd y gallai’r lleoliadau newid yn unol â chyfyngiadau Covid-19.

Ond daeth sicrwydd gan yr ECB y bydd cefnogwyr yn gallu hawlio’u harian yn ôl pe bai unrhyw gemau’n cael eu canslo neu eu gohirio.

Pe bai’r sefyllfa’n debyg i eleni, dydy hi ddim yn debygol y byddai Llywodraeth Cymru’n atal unrhyw gemau rhag cael eu cynnal os yw canllawiau yn Lloegr yn galluogi hynny i ddigwydd, hyd yn oed pe bai’r sefyllfa’n wahanol yng Nghymru.

Gobeithio croesawu cefnogwyr yn ôl

“Fe gawson ni haf anhygoel o griced rhyngwladol eleni gyda rhai perfformiadau cofiadwy, ac rydym yn gwybod cymaint o fwynhad ddaeth i bobol wrth iddyn nhw aros adref,” meddai Tom Harrison, prif weithredwr Bwrdd Criced Cymru a Lloegr.

“Y flwyddyn nesaf, mae gyda ni raglen ryngwladol fawr arall i edrych ymlaen ati, gyda chyffro cyfres pum gêm brawf yn erbyn India yn ganolbwynt, cyfres bêl wen gyffrous i’n dynion a’n merched, a Chyfres y Lludw i’n tîm Nam Golwg.

“Mae’n destun cyffro i gefnogwyr Lloegr a thra bod Covid yn golygu bod cryn dipyn o ansicrwydd o hyd, gobeithio’n fawr y gallwn ni groesawu cefnogwyr yn ôl i’r caeau’n ddiogel y flwyddyn nesaf i ddod ag awyrgylch unigryw i stadiymau ledled y wlad.”