Sgoriodd Elliott Durrell ei gôl gyntaf ers dychwelyd i Wrecsam wrth iddyn nhw guro Hartlepool o 1-0 oddi cartref yn y Gynghrair Genedlaethol neithiwr (nos Fawrth, Tachwedd 17).

Daeth y gôl fuddugol yn yr ail hanner i goroni wythnos dda i Wrecsam, sydd wedi cyhoeddi bod y sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi cael sêl bendith yr Ymddiriedolaeth i brynu’r clwb.

Hon oedd gêm gynta’r clwb ers tair wythnos.

Daeth dau gyfle euraid i Hartlepool yn yr hanner cyntaf, wrth i Luke Molyneux benio’r bêl dros y trawst oddi ar groesiad Gavan Holohan, cyn i Molyneux greu cyfle i Tom Crawford, a hwnnw’n taro ergyd yn syth at y golwr Robert Lainton.

Tarodd Molyneux y postyn bum munud cyn yr egwyl.

Cafodd Jordan Ponticelli gyfle cynnar yr ail hanner wrth orfodi Henrich Ravas i arbed y bêl, ond daeth y gôl ar ôl 53 munud pan darodd Durrell y bêl i’r rhwyd oddi ar bàs gan Kwame Thomas.