Mae Jonathan Humphreys, hyfforddwr blaenwyr tîm rygbi Cymru, yn cydnabod nad yw ymadawiad diweddar Byron Hayward, yr hyfforddwr amddiffyn, yn destun pryder iddo.

Penwythnos cyn gêm agoriadol Cymru yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref penderfynodd Prif Hyfforddwr Cymru, Wayne Pivac, gael gwaraed â Byron Hayward o’i dîm hyfforddi.

Fodd bynnag mae Humphreys yn cydnabod fod yna broblemau ym mhob agwedd o’r gêm, nid dim ond yn ardal yr amddiffyn.

Profodd y sgrymiau a’r leiniau yn gostus iawn i Gymru yn erbyn y Gwyddelod gan golli o 32-9 yn Nulyn.

“Mae gennym grŵp da iawn o hyfforddwyr a chwaraewyr ac rydym yn gyffrous ynglŷn â’r hyn sydd o’n blaenau ni,” meddai.

“A yw’r ymadawiad [Hayward] wedi effeithio arnaf? Na.

“Cyn belled â’n bod ni gyd gyda’n gilydd ac yn canolbwyntio ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud dyna sy’n bwysig.

“Dwi’n ymwybodol iawn o’r feirniadaeth mae hyfforddwyr yn ei gael, ond dwi’n credu ein bod yn gwneud y peth iawn.

 

“Mae cyfres o broblemau ond yr hyn rydym wedi bod yn canolbwyntio arno yw’r chwaraewyr sy’n cario’r bêl.

“Rydym yn awyddus i fod yn llym iawn yn yr ardal honno, ac i weld y cymorth yn cyrraedd yn gyflym y tu allan i’r chwaraewr.

“Rydym wedi gweld rhai gwelliannau ond mae’n rhaid i ni wella eto.”

‘Dysgu’r grefft a gweithio tua 2023’

Mae Wayne Pivac, prif hyfforddwr Cymru, eisoes wedi dweud y bydd tîm gwahanol iawn yn wynebu Georgia ym Mharc y Scarlets ddydd Sadwrn (Tachwedd 21).

Roedd diweddariad hefyd i’r garfan nos Lun (Tachwedd 16), gydag asgellwr y Scarlets, Johnny McNicholl, a blaenasgellwr ifanc Gleision Caerdydd, Jim Botham, yn ymuno â’r tîm cenedlaethol.

Mae Botham yn un ô bedwar chwaraewr yn y garfan sydd eto i ennill cap i Gymru – y tri arall yw Kieran Hardy, Johnny Williams a Ioan Lloyd.

“I ni, mae llawer o chwaraewyr sy’n dal i ddysgu’r grefft”, meddai Jonathan Humphreys.

“Mae yna rai chwaraewyr sydd ddim yn dechrau i’w rhanbarthau yn wythnosol ac mae angen amlygu’r gwerthoedd a’r pwysau o chwarae i Gymru iddyn nhw.

“Yn anffodus, dim ond un lle sydd i ddysgu hyn, a dyma’r tîm rydym ni’n credu all ein symud ni ymlaen.

“Mae’n rhaid i ni drin y cyfnod hwn fel cyfnod cyffrous i weld y bobol ifanc hyn yn dod drwodd.

“Mae [Cwpan Rygbi’r Byd] 2023 yn flaenoriaeth i ni ac mae’r chwaraewyr yma sy’n ymuno â’r garfan angen deall y pwysau o chwarae dros Gymru.”