Mae mewnwr y Scarlets Kieran Hardy yn gobeithio dod â chyflymder i gêm nesaf Cymru yng ngêm Cwpan y Cenhedloedd Hydref.
Mae Hardy yn un o dri chwaraewr fydd yn ennill eu capiau cyntaf i Gymru yn erbyn Georgia amser te b’nawn Sadwrn ym Mharc y Scarlets.
Johnny Williams a James Botham yw’r ddau arall, ac fe allai Ioan Lloyd hefyd ennill ei gap cyntaf o’r fainc.
“Wrth gwrs dw i’n hapus iawn i gael y cyfle’r penwythnos yma,” meddai Hardy.
“Dw i wedi treulio’r wythnosau diwethaf yn hyfforddi a cheisio dod yn gyfarwydd â phopeth i ddweud y gwir.
“Rwy’n teimlo mod i’n barod am y cyfle yma nawr, a gobeithio bydd modd i ni berfformio ar y penwythnos.”
https://t.co/HSPAIWV7rq pic.twitter.com/WSZT7txc22
— Golwg360 (@Golwg360) November 20, 2020
Hardy a Sheedy yn ail ymuno
Pan yn iau bu Hardy, sy’n enedigol o Gaerfyrddin, yn chwarae i Glwb Rygbi Cwins Caerfyrddin cyn ymuno ag Academi’r Scarlets.
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf i dîm cyntaf y Scarlets yn 2014 cyn symud i Jersey i chwarae ym Mhencampwriaeth Lloegr yn 2016.
Yno bu’n chwarae gyda’r maswr Callum Sheedy a fydd yn gwisgo’r crys rhif deg i Gymru am y tro cyntaf yn erbyn Georgia ar ôl gwneud ei ymddangosiad cyntaf oddi ar y fainc yn erbyn Iwerddon y penwythnos diwethaf.
“Mae’n rhyfedd iawn, ond dwi’n gyfarwydd gyda chwarae naill ochr â Callum,” meddai Hardy.
“Ni’n ffrindiau da ar, ac oddi ar y cae.”
Ar ôl i’w gyfnod yn Jersey ddod i ben daeth Hardy adref nôl i chwarae i’r Scarlets.
Bellach mae’n wyneb cyfarwydd o fewn y garfan ac mae’n parhau i wthio Gareth Davies, y dewis cyntaf yn safle’r mewnwr, am ei le.
“Fi’n gyfarwydd iawn â Pharc y Scarlets, dyna le fi wedi bod yn hyfforddi bob dydd, a fi’n disgwyl ymlaen i chware yno.
“Er bydd y teulu ddim yna, fi’n siŵr fydd pawb adre yn gwylio’r cyfan ar y teledu.”
Ychwanegodd Hardy mai buddugoliaeth yw blaenoriaeth y garfan ifanc, a phrofi eu bod yn haeddu eu lle cyn wynebu Lloegr y penwythnos canlynol.
“Y gobaith yw ennill y gêm, mae cwpl o newidiadau wedi bod i’r garfan wythnos yma, ac mae’n bwysig bod y bois yn dangos yr egni sydd ei angen.
“Mae’n gyfle i lawer ohonom ni i roi ein llaw fyny a dangos beth ni’n gallu gwneud ar y lefel yma.
“Y flaenoriaeth ydy gwneud yn siŵr mod i’n perfformio ar y penwythnos, a pwy a ŵyr beth fydd yn digwydd penwythnos nesaf, ond gobeithio byddaf ymhlith y dewisiadau.”
Cymru v Georgia yn fyw ar S4C gyda’r gic gyntaf am 5.15