Mae Wayne Pivac, Prif Hyfforddwr Cymru, wedi gwneud cyfres o newidiadau i’r tîm ar gyfer y gêm yn erbyn Georgia ar Barc y Scarlets nos Sadwrn, Tachwedd 21.

Mae 13 o newidiadau i’r tîm wynebodd Iwerddon y penwythnos diwethaf, a’r blaenasgellwr Justin Tipuric fydd y capten.

Ymhlith y newidiadau mae tri chwaraewr fydd yn ennill eu capiau cyntaf i Gymru.

Bydd Kieran Hardy, Johnny Williams a James Botham, a gafodd eu galw i garfan Cymru ddechrau’r wythnos, yn dechrau.

Gall maswr Bryste, Ioan Lloyd, hefyd ennill ei gap cyntaf o’r fainc.

Tra bydd Callum Sheedy a Louis Rees-Zammit yn dechrau yng nghrys coch Cymru am y tro cyntaf ar ôl ennill eu capiau cyntaf oddi ar y fainc yn ddiweddar.

Ar ôl colli yn Nulyn yng ngêm agoriadol Cwpan Cenhedloedd yr Hydref mae pwysau cynyddol ar Gymru, sydd bellach wedi colli chwe gêm yn olynol.

Tîm Cymru

Olwyr: Liam Williams, Johnny McNicholl, Nick Tompkins, Johnny Williams*, Louis Rees-Zammit, Callum Sheedy, Kieran Hardy*

Blaenwyr: Wyn Jones, Elliot Dee, Samson Lee, Jake Ball, Seb Davies, James Botham*, Justin Tipuric (C), Aaron Wainwright

Eilyddion: Sam Parry, Nicky Smith, Leon Brown, Cory Hill, James Davies, Rhys webb, Ioan Lloyd*, Jonah Homes

*Cap cyntaf

‘Cymru ddim cystal â’r llynedd’

Mae Prif Hyfforddwr Georgia, Levan Maisashvili, wedi awgrymu nad yw Cymru cystal â’r tîm wynebodd Georgia yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Japan y llynedd.

Curodd Cymru’r gêm honno o 43-14.

“Rwy’n disgwyl i Gymru fod yn fwy amrywiol yn eu tactegau nag y maent fel arfer,” meddai Levan Maisashvili.

“Er bod tîm Cymru fwy na lai’r un fath ag yng Nghwpan Rygbi’r Byd y llynedd, dydyn nhw ddim yn edrych cystal ag yr oedden nhw, ond mae’n bwysig nad yw eu canlyniadau diweddar yn ein camarwain.”

Fe gollodd Georgia o 40-0 yn erbyn Lloegr yn Twickenham yn eu gêm gyntaf o’r gystadleuaeth newydd.

“Mae ganddynt [Cymru] lawer mwy o opsiynau ymosodol na Lloegr a dylem ddisgwyl mwy o bethau annisgwyl mewn cyfnodau statig o’r gêm, felly mae’n rhaid i ni feddwl mwy am ein hamddiffyn hefyd.”