Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi y bydd £750,000 o arian loteri yn cael ei rannu rhwng 44 o glybiau Cynghreiriau Cymru.

Bydd y pecyn ariannol – a sefydlwyd gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru, y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Prydain – yn rhoi arian i’r clybiau tra bod gemau’n parhau i gael eu chwarae heb dorfeydd.

Bydd chwaraewyr y Loteri Genedlaethol hefyd yn cael cyfle i ennill amrywiaeth o wobrau fel diolch am eu cefnogaeth – gan gynnwys tocynnau am ddim i gemau pêl-droed a phrofiadau VIP gyda Thîm Cenedlaethol Cymru.

Bydd yr arian, a gaiff ei ddosbarthu drwy Gymdeithas Bêl-droed Cymru, yn chwarae rhan allweddol wrth sicrhau dyfodol y clybiau, sydd wedi cael eu heffeithio’n ddwys gan bandemig y coronafeirws.

“Hynod ddiolchgar”

“Yng Nghynghrair Cymru, rydym yn hynod ddiolchgar am ein partneriaeth unigryw â’r Loteri Genedlaethol a’r ffrwd ariannu sydd wedi’i darparu ar gyfer ein clybiau ar draws Cynghreiriau Cymru, tra bod gemau’n parhau i gael eu chwarae y tu ôl i ddrysau caeedig,” meddai Jonathan Ford, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart: “Mae clybiau yng Nghynghrair Cymru yn chwarae rhan enfawr yn eu cymunedau lleol ac, fel llawer o rai eraill, maen nhw wedi bod yn cael trafferth yn yr hinsawdd sydd ohoni.

“Rwy’n falch iawn fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn gallu helpu i ddod â’r Loteri Genedlaethol a’r awdurdodau pêl-droed at ei gilydd i gyflawni ar gyfer y clybiau hyn ac ar gyfer pêl-droed ar lawr gwlad yng Nghymru.

“O Brestatyn i Ffynnon Taf, bydd y pecyn ariannu hwn yn helpu clybiau i barhau nes y gall cefnogwyr ddychwelyd yn ddiogel.”

Clybiau’n cael “y cymorth sydd ei angen arnynt”

Dywedodd Nigel Railton, Prif Weithredwr gweithredwr y Loteri Genedlaethol Camelot: “Mae’r Loteri Genedlaethol wedi bod yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau ledled y Deyrnas Unedig dros y 26 mlynedd diwethaf, felly rydym wrth ein bodd yn gallu partneru gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ddarparu cyllid hanfodol ar gyfer y clybiau hynod bwysig hyn yng Nghynghrair Cymru.

“Fel cefnogwr pêl-droed enfawr fy hun, rwy’n gwybod beth fydd hyn yn ei olygu i gefnogwyr y clybiau cymunedol hyn, ac rwy’n siŵr y byddan nhw’n falch o glywed bod eu clybiau’n cael y cymorth sydd ei angen arnynt.”