Mae Jim Botham wedi datgelu’r cyngor a gafodd e unwaith gan ei dad-cu, y cyn-gricedwr rhyngwladol Syr Ian Botham.

Bydd y blaenasgellwr yn gwisgo crys Cymru am y tro cyntaf heddiw, wrth iddyn nhw herio Georgia yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref.

Daw ei gêm ryngwladol gyntaf ar ôl dim ond 13 o gemau i’r Gleision, ac mae’n dilyn yn ôl traed ei dad Liam, cyn-chwaraewr rygbi a chriced oedd wedi chwarae i Gaerdydd, gan hefyd chwarae rygbi’r gynghrair i Leeds, Newcastle a thîm dan 20 Lloegr.

Ac mae’n cyfaddef iddo ofyn i’w fam-gu, gwraig Syr Ian Botham, rywdro a oedd ei dad-cu yn “dda wrth chwarae criced”.

Yn fachgen ifanc, Cymru oedd hoff dîm rhyngwladol Jim Botham, a byddai’n teithio 500 milltir o Cumbria i Gaerdydd ac yn ôl er mwyn cael hyfforddi gyda’r Gleision yn y brifddinas lle cafodd ei eni tra bod ei dad yn chwarae yng Nghymru.

Cymro i’r carn?

Er mai Saeson yw ei dad a’i dad-cu, mae Jim Botham yn dweud iddo deimlo fel Cymro erioed.

“Ces i fy ngeni yng Nghymru, ro’n i bob amser eisiau chwarae dros Gymru a dyna pam fy mod i wedi dal ati ac wedi teithio’n bell o Sedbergh i lawr i Gymru yn y gobaith o gael mewn, ac mae wedi talu ar ei ganfed,” meddai.

“Mae [Syr Ian Botham] yn dweud ‘bydd yn broffesiynol am y peth, anwybydda’r casawyr y byddi di bob amser yn eu cael, cadwa dy ben i lawr, rho gynnig ar fod y gorau galli di fod, ac fe ddaw’r gwobrau.

“Paid rhedeg cyn cerdded, mwynha dy hun – dyna’r prif beth.”

Ond fydd e’n sicr ddim yn cael ei ddylanwadu gan unrhyw brofiad o weld ei dad-cu yn chwarae criced.

“Ro’n i’n gwybod [am ei yrfa ryngwladol ddisglair], ond ddim wir nes bod fy mam-gu yn sôn,” meddai.

“Roedden ni i gyd yn chwarae criced yn yr ardd ac roedd ganddo fe sigar mewn un llaw, ac fe roddodd honno yn ei geg, gwydryn o win yn y llaw arall a bat criced!

“Fe wnes i ofyn i fy mam-gu ‘oedd e’n dda wrth chwarae criced?’ a dywedodd hi ei fod e’n ‘ddigon da ar ryw adeg!’.

“Ac yna wrth dyfu i fyny yn yr ysgol yn chwarae criced fy hun, fe wnes i sylweddoli’r peth ychydig yn fwy wrth i bobol drio ‘nghael i pan oeddwn i’n dod i mewn i fatio.

“Mae’r cyfan yn mynd dros fy mhen i mewn gwirionedd, dyw e ddim yn poeni dim arna’i.

“Mae gan bawb ei farn.

“Dydych chi ddim yn rhoi unrhyw reswm i bobol eich amau ac yn bwrw iddi a does dim troi’n ôl wir.”

Pwysigrwydd y teulu

Ond fydd teulu Jim Botham ddim yn cael bod ym Mharc y Scarlets ar gyfer y gêm oherwydd cyfyngiadau’r coronafeirws.

Serch hynny, mae’n dweud y byddan nhw’n dibynnu ar alwadau Zoom.

“Maen nhw bob amser wedi bod yno i fi ers y diwrnod cyntaf yn fy helpu, yn fy nghludo i wahanol lefydd,” meddai.

“Yn drist iawn, y prif ddyn oedd yno ar gyfer fy holl gemau oedd fy hen dad-cu [Gerry Waller, tad ei fam Kathy], fydd yn methu bod yno ddydd Sadwrn.

“Cyn iddo farw, fe wnes i addo y byddwn i’n ceisio chwarae dros Gymru.

“Bydd e’n edrych i lawr drosof fi a gobeithio y galla i ei wneud e’n falch.

“Byddai yno ym mhob gêm ac yn dod ata’i wedyn â phecyn o Jelly Babies.

“Roedd yn beth braf i’w weld ar ddiwedd y gêm, yn enwedig yn blentyn.”

Derbyn yr alwad

Cafodd Jim Botham ei alw i’r garfan ddydd Llun (Tachwedd 16).

Roedd disgwyl iddo fe chwarae i’r Gleision yn erbyn Benetton y noson honno.

“Fe wnaethon nhw gyhoeddi’r tîm ac roedd fy enw ynddo fe,” meddai.

“Ro’n i jyst yn edrych arno fe gan feddwl ‘all hynny ddim bod yn iawn’, ond mae e ac alla i ddim aros i fynd allan yno nawr.

“Mae Georgia yn dibynnu ar y chwarae gosod i’w cael nhw ymlaen ac i mewn i’r gêm.

“Fy nod yw dominyddu, cael fy hun dros y bêl a gwneud beth alla i gyda’r bois o’m cwmpas i.”