Mae Steve Cooper, rheolwr tîm pêl-droed Abertawe, yn galw am gysondeb rhwng nawr a’r Nadolig, wrth i’r Elyrch ddychwelyd i’r cae am y tro cyntaf ers y gemau rhyngwladol, wrth groesawu Rotherham i Stadwm Liberty heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 21).

Bydd gan yr Elyrch ddwy gêm bob wythnos hyd at y Nadolig, gyda chyfanswm o 27 o bwyntiau ar gael hyd at yr wythnos honno.

Maen nhw’n chweched yn y Bencampwriaeth ar hyn o bryd, dri phwynt yn unig o’r brig ond roedd eu gemau yn erbyn Brentford a Norwich cyn yr egwyl yn wastraffus oherwydd diffyg goliau.

Mae Rotherham yn bedwerydd ar bymtheg yn y tabl ac fe wnaethon nhw hefyd wastraffu cyfleoedd wrth ildio’n hwyr yn erbyn Birmingham a Huddersfield a methu cic o’r smotyn yn erbyn Norwich.

Ond fe gawson nhw fuddugoliaeth o 2-1 dros Preston yn eu gêm ddiwethaf.

Anafiadau

Mae amheuon am ffitrwydd Andre Ayew a Marc Guehi ar ôl i’r ddau anafu llinyn y gâr wrth chwarae dros eu gwledydd yn ddiweddar, ac fe fu’n rhaid iddyn nhw ddychwelyd i Abertawe’n gynnar.

Ond dylai Ben Cabango a Kyle Naughton fod yn holliach, gyda’r ddau hefyd wedi anafu llinyn y gâr dros yr wythnosau diwethaf.

Mae George Byers yn ymarfer eto ar ôl gwella o anaf i’w goes ond fydd e ddim ar gael.

Mae Morgan Gibbs-White allan am gyfanswm o dri mis oherwydd anaf i’w droed.

Ystadegau o blaid Abertawe

Dim ond unwaith mae’r Elyrch wedi colli ar eu tomen eu hunain yn erbyn Rotherham mewn 19 o gemau.

A saith gôl yn unig maen nhw wedi’u hildio mewn 11 o gemau y tymor hwn – dim ond Middlesbrough o blith timau’r Bencampwriaeth sydd wedi ildio llai (pump).

“Yn ystod y tymor, fe fyddwch chi’n ennill, colli a chael gemau cyfartal,” meddai Steve Cooper.

“Mae hynny’n anochel.

“Yr her fwyaf yw ceisio bod mor gyson ag y gallwch chi fod ac er mwyn gwneud hynny, rhaid i chi edrych ymlaen a bod yn bositif.

“Rhaid i chi edrych ymlaen neu, fel arall, rydych chi’n cael eich dal yng nghanol pethau nad ydyn nhw’n effeithio’r gêm nesaf.

“Rydyn ni’n parhau i wneud hynny ac fe gawn ni weld lle mae hynny’n mynd â ni.”