Mae Neil Harris, rheolwr tîm pêl-droed Caerdydd, yn edrych ymlaen at ddychwelyd i’w hen glwb Millwall yn y Bencampwriaeth heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 21).

Dyma gêm gynta’r Adar Gleision ers i Harry Wilson a Kieffer Moore chwarae dros Gymru yng Nghynghrair y Cenhedloedd yn ystod y ffenest ryngwladol.

Chwaraeodd Harris i Millwall rhwng 1998 a 2004 ac eto rhwng 2007 a 2011 cyn mynd yn ei flaen i’w rheoli rhwng 2015 a 2019 ac ymuno â Chaerdydd wedyn.

“Fel criw, allwn ni ddim aros am ddydd Sadwrn,” meddai.

“Mae’n her anodd wrth i chi fynd i’r Den, gyda’r dorf neu hebddi.

“Mae meddylfryd y criw yn ffyrnig o gystadleuol ac yn ffyrnig o gryf i lwyddo ar hyn o bryd.

“Yn bersonol, dw i wir yn edrych ymlaen at weld llawer o wynebau dw i’n eu nabod yn dda, llawer o’r chwaraewyr y des i mewn â nhw a rheolwr a staff dw i’n eu nabod yn arbennig o dda.

“Dw i’n canolbwyntio’n llwyr ar eisiau mynd yno i ennill.

“Byddai’n destun balchder mawr i fi fynd yn ôl a chael triphwynt i Gaerdydd.”

Y gwrthwynebwyr

Ar ôl colli allan ar y gemau ail gyfle o drwch blewyn y tymor diwethaf, bydd Millwall eisiau gwneud yn iawn am hynny y tymor hwn.

Maen nhw ddau bwynt yn unig islaw’r safleoedd ail gyfle ar hyn o bryd.

Maen nhw’n nawfed yn y tabl ar ôl ennill pedair, colli dwy a chael pum gêm gyfartal yn eu 11 gêm diwethaf.

Roedden nhw’n dd-guro yn eu tair gêm gyntaf – dwy gêm gyfartal yn erbyn Stoke a Brentford cyn curo Rotherham.

Daeth eu colled gyntaf yn erbyn Abertawe cyn iddyn nhw ennill tair allan o’u pedair gêm wedyn.

Collon nhw gartref am y tro cyntaf, o 3-0, yn erbyn Huddersfield cyn dechrau’r mis hwn gyda dwy gêm gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Norwich a Sheffield Wednesday.