Bydd tîm pêl-droed Wrecsam yn gobeithio coroni wythnos fawr yn hanes y clwb gyda buddugoliaeth yn erbyn Aldershot ar y Cae Ras heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 21).
Ar ôl ennill o 1-0 yn Hartlepool nos Fawrth (Tachwedd 17) yn dilyn y cyffro fod yr actorion Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi cael sêl bendith cefnogwyr i brynu’r clwb, maen nhw’n wynebu tîm Aldershot sydd wedi ennill dwy a chael un gêm gyfartal yn eu tair gêm ddiwethaf yn y Gynghrair Genedlaethol.
Dim ond unwaith wnaeth Aldershot ildio gôl yn y tair gêm hynny, a hynny er iddyn nhw golli’n drwm o 4-1 yn erbyn Torquay cyn hynny.
Aldershot sydd wedi cael y gorau o’r gemau yn erbyn Wrecsam dros y blynyddoedd diwethaf a byddai colli yn golygu bod Wrecsam yn efelychu eu rhediad hiraf heb fuddugoliaeth yn erbyn Aldershot – pedair gêm rhwng 2016 a 2018.
Dim ond unwaith mae Wrecsam wedi curo Aldershot yn eu saith gêm flaenorol.
Serch hynny, mae eu record yn y Cae Ras dipyn gwell, gydag 17 allan o 22 o gemau’n fuddugoliaethau i’r Cymry.
Pedair blynedd yn ôl oedd y tro cyntaf i Wrecsam golli yn erbyn Aldershot ar y Cae Ras.