Mae Mike Flynn, rheolwr tîm pêl-droed Casnewydd, yn gobeithio manteisio ar y gemau cartref sydd i ddod, gan ddechrau gydag ymweliad Port Vale i Rodney Parade heddiw (dydd Sadwrn, Tachwedd 21).
Mae’r Alltudion ar frig yr Ail Adran wrth ailddechrau wedi’r cyfnod rhyngwladol, gyda Josh Sheehan, Tom King, Brandon Cooper ac Aaron Lewis i gyd ar ddyletswydd gyda thimau Cymru.
“Mae gyda ni gyfnod pwysig o’n blaenau ni,” meddai Mike Flynn.
“Ac mae gyda ni gyfle gwirioneddol yn y chwe wythnos nesaf gyda llawer o gemau cartref, felly rhaid i ni fanteisio ar hynny.
“Bydd Port Vale yn brifo [ar ôl colli gartref o 1-0 yn erbyn Scunthorpe].
“Fe wnes i wylio eu gêm nhw ddydd Sadwrn [collon nhw o 4-3 yn erbyn Tranmere] pan oedden nhw’n dda iawn ac ar y blaen o 2-0, ond fe gostiodd yn ddrud wrth gael rhywun wedi’i anfon o’r cae.
“Cael a chael fydd hi iddyn nhw, maen nhw’n garfan solet gyda chwaraewyr da, ac mae John [Askey, y rheolwr] wedi gwneud gwaith da yno.
“Mae’n mynd i fod yn gêm anodd – ar eu dydd, byddan nhw’n curo unrhyw un yn y gynghrair.”