Roedd buddugoliaethau i dimau pêl-droed Abertawe, Casnewydd a Wrecsam tra bod Caerdydd wedi cipio pwynt oddi cartref ym Millwall.

Sgoriodd y capten Matt Grimes unig gôl y gêm i’r Elyrch oddi cartref yn Rotherham, wrth i’r golwr Jamal Blackman wneud camgymeriad i roi’r cyfle i dîm Steve Cooper.

Mae’r canlyniad yn gweld Abertawe’n codi i’r pedwerydd safle yn y Bencampwriaeth.

Achubodd yr Adar Gleision bwynt ym Millwall yn y Bencampwriaeth, ar ôl i Matt Smith roi Millwall ar y blaen yn erbyn eu cyn-reolwr Neil Harris yn y Den.

Fe wnaeth Caerdydd unioni’r sgôr ar ôl 78 munud drwy Kieffer Moore.

Mae Casnewydd yn aros ar frig yr Ail Adran ar ôl i Kevin Ellison rwydo unig gôl y gêm yn erbyn Port Vale chwe munud i mewn i’r amser a ganiateir am anafiadau.

Aeth Port Vale i lawr i ddeg dyn ar ôl 67 munud pan gafodd Leon Legge ei anfon o’r cae.

Sgoriodd Luke Young unig gôl y gêm yn erbyn Aldershot ar ôl 63 munud i sicrhau ail fuddugoliaeth Wrecsam o’r bron yn y Gynghrair Genedlaethol.