Mae tîm arbrofol Wayne Pivac wedi curo Georgia yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref gan sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf ar ôl colli chwe gêm yn olynol.

Ychydig dros flwyddyn oedd hi ers i Gymru a Georgia wynebu ei gilydd ddiwethaf.

Fodd bynnag dim ond traean o’r chwaraewyr a gurodd Georgia 43-14 yng ngêm gyntaf Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd y llynedd oedd yn dechrau’r gêm yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref.

Ymhlith 13 o newidiadau i dîm Cymru a gollodd yn erbyn Iwerddon y penwythnos diwethaf roedd tri chwaraewr hefyd yn ennill eu capiau cyntaf.

Dechreuodd Kieran Hardy, Johnny Williams a James Bothan y gêm ym Mharc y Scarlets, a daeth Ioan Lloyd ymlaen o’r fainc yn yr ail hanner i ennill ei gap cyntaf.

Roedd y gwrthwynebwyr hefyd wedi gwneud pum newid i’r tîm gollodd yn drom, 40-0, yn erbyn Lloegr y penwythnos diwethaf.

Y maswr Callum Sheedy hawliodd y pwyntiau cynnar gan roi’r tîm cartref ar y blaen gyda’i gic gosb gyntaf i’w wlad.

Parhau gwnaeth y chwarae gyda chyfres o gymalau yn nwy ar hugain Georgia.

Ar ôl croes gic gan Sheedy i Louis Rees-Zammit daeth Cymru yn agos i groesi’r llinell, ond profodd amddiffyn Georgia yn rhy gryf gan ddal y bel i fyny ar y lein.

Gyda dyfal barhad gan Gymru daeth cyfle arall i’r asgellwr ifanc gan sgorio ei gais gyntaf i’w wlad.

Ychwanegodd Sheedy ddau bwynt at y sgôr.

Cymru oedd â’r mwyafrif o’r meddiant am weddill yr hanner, ond ar ôl i’r cloc droi’n goch ildiodd y mewnwr Kieran Hardy gic gosb o flaen y pyst.

Er hyn profodd tywydd garw Llanelli yn ormod i faswr Georgia, Tedo Abzhandadze, a fethodd ei ymgais at y pyst.

Hanner amser:  Cymru 10–0 Georgia

Ar y cyfan roedd hi’n ail hanner siomedig i Gymru.

Aeth Cymru dri phwynt ar ddeg ar y blaen ar ôl cic gosb lwyddiannus arall i Sheedy, ond ar ôl chwarae da gan Louis Rees-Zammit bu rhaid i’r capten Justin Tipuric adael y cae gydag anaf i’w ben.

Treuliodd blaenasgellwr Georgia, Beka Saginadze, ddeg munud yn y gell gosb am y dacl uchel ar Tipuric a bu rhaid i Rhys Webb gymryd drosodd yr awenau fel capten.

Bu James Botham yn anlwcus ô ildio cic gosb bum medr o’r llinell gais, ac mae’n siŵr bydd tîm hyfforddi Cymru yn siomedig na lwyddodd y tîm cartref ychwanegu at y sgôr fwrdd tra roedd Georgia lawr i bedwar dyn ar ddeg.

Parhau i roi pwysau ar Gymru yn y munudau olaf gwnaeth Georgia ond tarodd yr eilydd Rhys Webb yn ôl drwy rwygo ei ffordd drwy amddiffyn y gwrthwynebwyr i sgorio ei gais cyntaf i Gymru ers 2016.

Bydd rhaid i Gymru wella cyn i Loegr ymweld â Llanelli y penwythnos nesaf.

Cymru
18-0
Georgia

 Rees-Zammit, Webb

Ceisiau

 

 Sheedy

Trosiadau

 

 Sheedy (2)

Ciciau Cosb

 

 

 

Tîm Cymru

Olwyr: Liam Williams, Johnny McNicholl, Nick Tompkins, Johnny Williams*, Louis Rees-Zammit, Callum Sheedy, Kieran Hardy*

Blaenwyr: Wyn Jones, Elliot Dee, Samson Lee, Jake Ball, Seb Davies, James Botham*, Justin Tipuric (C), Aaron Wainwright

Eilyddion: Sam Parry, Nicky Smith, Leon Brown, Cory Hill, James Davies, Rhys webb, Ioan Lloyd*, Jonah Homes

*Cap cyntaf

 

Tîm Georgia

Olwyr: Lasha Khmaladze; Akaki Tabutsadze, Giorgi Kveseladze, Merab Sharikadze (C), Sandro Todua; Tedo Abzhandadze, Vasil Lobzhanidze;

Blaenwyr: Mikheil Nariashvili, Jaba Bregvadze, Beka Gigashvili, Grigor Kerdikoshvili, Kote Mikautadze, Otar Giorgadze, Beka Saginadze, Beka Gorgadze

Eilyddion: Giorgi Chkoidze, Guram Gogichashvili, Lexo Kaulashvili, Lasha Jaiani, Giorgi Tkhilaishvili, Gela Aprasidze, Demur Tapladze, Tamaz Mchedlidze

 

Dyfarnwr: Luke Pearce (Lloegr)

Dyfarnwyr cynorthwyol: Andrew Brace a Frank Murphy (Iwerddon)

TMO: Joy Neville (Iwerddon)